Y tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain
Roedd Plas Mawr yn eicon pensaernïol yn ei oes. Tŷ tref ydoedd a adeiladwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan Robert Wynn, trydydd mab tirfeddiannwr lleol, a oedd yn gweddu’n berffaith i ŵr ifanc cyfoethog o Oes Elisabeth.
Ceir golygfa fawreddog o’r adeilad yn llenwi’r rhan fwyaf o’r stryd drws nesaf i sgwâr y farchnad. Mae gwaith cadwraeth modern ar y tŷ wedi’i adfer i’w gyflwr dilychwin. Mae gwaith plastro wedi’i baentio’n brydferth (wedi’i addurno gyda’r llythrennau RW mewn mannau) yn ategu’r gwaith coed wedi’i gerfio a’r waliau cerrig moel. Chwiliwch am yr ystafelloedd wedi’u dodrefnu yn ffasiwn yr 1660au yn yr eiddo yma, sydd dan ofal Cadw.
Bu Wynn yn teithio drwy Ewrop yn gweithio i ddiplomyddion llys Tuduraidd Lloegr, ac mae ei gartref yn adlewyrchu ysblander y byd elitaidd yr oedd yn rhan ohono. Yn ogystal, roedd yna sawl gŵr Tuduraidd llwyddiannus lleol oedd yn gyfarwydd â mwyniannau egsotig Llundain ac Ewrop – ‘cyfreithwyr Caernarfon, marsiandwyr Biwmares a gwŷr bonheddig Conwy’ fel y’u gelwid gan Syr John Wynn, Gwydir. Yn ddiau, bwriad ysblander a moethusrwydd Plas Mawr oedd creu argraff ar y cymdogion.
Cafodd y tŷ ei rentu gan Academi Gelf Frenhinol y Cambrian ym 1887. Datblygodd i fod yn ganolfan ac oriel iddynt am bron i ganrif. Ganwyd yr AGF ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach pan unodd artistiaid lleol gydag artistiaid o Lerpwl a Manceinion oherwydd eu hoffter o ddarlunio tirwedd gogledd Cymru. Beth am ymweld ag un o arddangosfeydd mwyaf diweddar yr AGF yn eu horiel newydd, tu ôl i Blas Mawr?
31 Mawrth - 30 Medi
Mawrth i Sul 9.00am - 5.00pm
Wedi cau ar ddydd Llun (oni bai am Wyl y Banc)
Gwiriwch wefan Cadw am bris mynediad
A55 or B5106
Cyffordd Llandudno - 1.5 milltir neu Conwy ¼ milltir
Bysiau rheolaidd i nifer o leoliadau yn stopio 100 llath i ffwrdd
Ar Lwybr 5 Sustrans
Stryd Fawr, Conwy
Cwn tywys yn unig. Mynediad am ddim i'r anabl
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 780775 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans:115