Tarddiad y chwyldro technolegol
Agorwyd Gweithfeydd Copr ac Aur Glasdir, ger pentref Llanelltyd, yn 1852, yn bennaf er mwyn echdynnu mwyn copr. Echdynnwyd dros 13,000 tunnell o’r metel o’r tirwedd rhwng 1872 a 1913.
Yn 1896, prynwyd y gweithfeydd gan y brodyr Frank a Stanley Elmore, ar y cyd â’u tad, William. Yno, bu iddynt osod y broses arnofiant masnachol gyntaf yn y byd a oedd o faint diwydiannol ar gyfer gwahanu mwynau. Roedd hon yn broses a ddatblygwyd ac a gafodd ei phatentu gan Frank a Stanley. Yn ei hanfod, roedd y dechneg chwyldroadol hon yn defnyddio olew i gasglu sylffidau wedi’u malurio a oedd yn cynnwys copr ac yna eu harnofio i wyneb y dŵr er mwyn eu casglu’n haws. Roedd y broses yn caniatáu echdynnu mwyn o safon llawer is, rhywbeth nad oedd yn hyfyw yn economaidd cyn hyn. Heb yr arloesiad hwn, ni fyddai ein chwyldro technolegol yn yr ugeinfed ganrif yn bosib - byddai gwifrau copr llawer yn rhy ddrud.
Gwerthwyd y gweithfeydd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach i berchnogion newydd o’r Almaen. Arweiniodd hyn at eu cau yn 1915 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Heddiw, gall bobl sy’n ymweld â’r felin ddilyn llwybr cerdded o amgylch y safle i weld olion yr unedau crynodi, y maluriwyr, y sianeli dŵr, y rheilffordd ac, wrth gwrs, adeilad y felin ei hun.
Mynediad am Ddim
I'r dwyrain o'r A470 dilynwch arwyddion brown a gwyn am Tyn y Groes. Dilynwch y ffordd tarmac i'r dde heibio safle picnid Ty’n y Groes am ¾ milltir
Abermaw - 14 milltir
Safle bws Gwesty Ty’n y Groes ar yr A470 - 1.5 milltir
Ger Llwybr 82
Dilynwch y llwybrau troed
Parcio yn Glasdir neu Pont Llam yr Ewig (Comisiwn Coedwigaeth). Mynediad cadair olwyn a pramiau ar hyd y llwybr top. Taith gerdded cymedrol o faes parcio Glasdir. Argymhellir esgidiau cerdded. Llwybr wedi ei nodi gyda saethau coch
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 739225 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124