Amdanon ni

Amdanon ni

Mae gan Gwynedd a Conwy gyfoeth treftadol unigryw - o gestyll Treftadaeth y Byd, chwareli llechi a chysegrfeydd Celtaidd i dirluniau ysbrydol gydag iaith Gymraeg byw.


Datblygodd cynghorau Gwynedd a Chonwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid weledigaeth i wneud y mwyaf o werth economaidd a diwylliannol ein cynnig treftadol drwy wella profiad hanesyddol a diwylliannol ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd. Yn 2011 yr oeddent yn llwyddiannus am gais o £1.7 miliwn o brosiect £19m Twristiaeth Treftadaeth Cadw - a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.


Ganed Ein Treftadaeth (Our Heritage).

Cyfunodd y prosiect fuddsoddiadau mewn safleoedd penodol gyda llwyfan ddehongli canolog i ddod a’r cyfan ynghyd - a dyma le mae’r wefan yn chwarae rhan allweddol.


Y wefan hon yn hyn sy'n dal y prosiect gyda'i gilydd, ei asgwrn cefn fel petai. Gallwch bori'r cyfoeth o safleoedd treftadaeth sydd gan yr ardal i'w gynnig, o Wreiddiau a Chynhanes, Concwest y Rhufeiniaid, Tirweddau Ysbrydoledig, Cestyll Edwardaidd, Lleoedd Sanctaidd neu Genedl Ddiwydiannol.


Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am bob safle treftadaeth sylweddol yn yr ardal. Mae hefyd yn cynnwys teithiau clywedol a theithlenni i chi eu lawr lwytho. Gellir ei weld o amrywiaeth eang o ddyfeisiau ac mae hefyd yn gyrru cynnwys y sgriniau digidol mewn rhai o’r safleoedd. Fel rhan o ddull integredig, mae'r prosiect yn rhedeg ochr yn ochr â phrosiect Twristiaeth Treftadaeth arall o'r enw "Tywysogion Gwynedd" ac mae'r thema hon hefyd i’w gweld ar wefan Ein Treftadaeth.

Drwy gefnogaeth ei amryw bartneriaid, mae’r prosiect wedi torri tir newydd o ran ei ymagwedd tuag at dwristiaeth treftadaeth. Mae ei etifeddiaeth yn adnodd a wneith barhau am gyfnod maith at fudd twristiaid a phobl leol i’r dyfodol yn ogystal â pherthynas waith rhwng partneriaid allweddol lleol i sicrhau’r rheolaeth integredig o dwristiaeth ar gyfer cenedlaethau i ddod.