Taith Tramffordd y Chwarelwyr a Thaith y Pwll Dwfn
Daw gwir raddfa’r diwydiant llechi yng Nghymru yn fyw yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd uwchlaw tref Blaenau Ffestiniog. Bu chwarel y Llechwedd yn gweithredu ers 1848, pan hyrddiwyd y diwydiant cynhyrchu llechi i’r oes dechnolegol gyda dyfodiad llifiau mecanyddol gwell i hollti llechi o gwmpas 1851. Yn y 1920au, dechreuodd y rheilffyrdd mewnol drwy’r Ceudyllau gael eu pweru gan drydan.
Roedd Llechwedd yn un o sawl chwarel ym mherchnogaeth John Greaves. Roedd ef hefyd yn gysylltiedig â Rheilffordd Ffestiniog oedd yn cludo’r llechi i’r cei ym Mhorthmadog lle roedd Llechwedd wedi prydlesu cei preifat o 1853 ymlaen. O’r fan honno, roedd y llechi’n cael eu hallforio ar draws y byd ac roeddynt yn arbennig o boblogaidd yn yr Almaen.
Yn ddiweddar, mae Llechwedd wedi gweld newidiadau mawr er mwyn gwella’i brif atyniadau. Mae’r daith dywys â sŵn a golau yn mynd i lawr bron i 500 troedfedd i’r Chwarel Ddofn â rheilffordd ffwnicwlar (cebl), y rheilffordd deithwyr mwyaf serth ym Mhrydain. Unwaith y bydd ymwelwyr dan y ddaear, ânt ar daith dywys drwy hanner milltir o dwnneli a 10 ceudwll tanddaearol, i gyd wedi’u naddu â llaw, cyn dod allan wrth lyn tanddaearol prydferth.
Ychydig o lefydd ddaw yn agos at wir odidowgrwydd Llechwedd â’i 25 milltir o dwnneli a cheudyllau. Mae’r chwarel yn parhau i weithredu fel chwarel lechi (erbyn hyn yn chwarel frig) ac mae’n un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.
Ionawr - Mawrth - Dydd Mercher i Ddydd Sul
Mawrth - Rhagfyr - 7 diwrnod yr wythnos 9.30-5.30
Dilyn arwyddion Brown a Gwyn o Blaenau Ffestiniog
Ewch i wefan Cyngor Gwynedd am amserlenni bws