Mae adfeilion trawiadol Castell Dolforwyn yn y Powys sydd ohoni’n meddiannu cefnen goediog uwchlaw Afon Hafren. O’r copa, gallwch weld golygfeydd godidog ar hyd y dyffryn, wrth i’r afon fawr lifo o fynyddoedd Cambria yn y Dwyrain, trwy Ogledd Powys tuag at y ffin gyda Lloegr.
Dechreuodd Llywelyn ein Llyw Olaf adeiladu Dolforwyn ym 1273 fel ffordd o atgyfnerthu ei rym a hysbysebu ei arglwyddiaeth dros y gororau pwysig hyn. Fe’i hadeiladwyd i wrthsefyll Castell Trefaldwyn, bum milltir i ffwrdd tua’r gorllewin, ac roedd hyn yng ngwaethaf dannedd brenin Lloegr, Edward I. Mae dogfennau o’r adeg honno’n dweud wrthym, rhwng 1273 a 1274, gwariwyd £173, 6s 8d ar adeiladu’r castell.
Caiff adeiladau’r castell eu hamgylchynu gan wal betryal fawr. Mae hwn yn edrych i lawr ar yr ymwelydd, sy’n dod at y castell o gyfeiriad y de. Ar y pen dwyreiniol, gallwch weld rhan is tŵr amddiffynnol siâp cylch a gafodd ei adeiladu i mewn i’r wal. Ar y pen gorllewinol mae adfeilion sylweddol tŵr mawr siâp petryal. Ychydig iawn sy’n weddill o drydydd tŵr a gafodd ei adeiladu i mewn i’r wal ar ochr ogleddol hir y wal, ond ymddengys bod hwn wedi’i adeiladu yn y siâp D sydd mor nodweddiadol o gestyll Cymreig y 13eg ganrif ac roedd yn gysylltiedig yn wreiddiol â’r tŵr siâp cylch wrth adeilad deulawr. Yn ogystal, sefydlodd Llywelyn dref fach ar ben cefnen, ond nid oes olion o hyn wedi goroesi.
Ni allai Brenin Lloegr oddef yr her yr oedd Castell Dolforwyn yn ei chynrychioli i’w awdurdod, a daeth ei ddyddiau fel esiampl o rym y Cymry i ben cyn i’r adeiladu gael ei gwblhau hyd yn oed. Ym 1277, ymosododd Roger Mortimer ar y castell ac ar ôl gwarchae o bythefnos, gorfodwyd amddiffynwyr Cymru i ildio. Canfuwyd saethynnau o’r catapyltiau a ddefnyddiwyd yn y gwarchae hwn yn ystod cloddiadau yn y 1980au. Cafodd y fwrdeistref a sefydlwyd gan Llywelyn ei chodi a’i symud ychydig filltiroedd tua’r gorllewin i’r Drenewydd a throsglwyddwyd y castell i deulu Mortimer. Erbyn diwedd y 14eg ganrif, roedd yn adfail.