Abaty Cwmhir oedd y fynachlog Sistersaidd fwyaf o sawl un a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol. Dim ond rhai rhannau o’r wal o’r eglwys wych o’r 13eg ganrif sy’n dal i sefyll heddiw. Fodd bynnag, mae’r man rhyfeddol o heddychlon hwn ar lan ogleddol Nant Clywedog, i gyfeiriad y gogledd o Landrindod, yn werth ymweld ag ef.
Sefydlwyd yr abaty fel chwaer dŷ i Abaty Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol ym 1143 ac wedyn fe’i hailsefydlwyd ym 1176, mwy na thebyg dan nawdd Cadwallon ap Madog, rheolwr Maelienydd, fel yr oedd yr ardal yn cael ei galw ar y pryd. Cafodd Cadwallon ei ladd ym 1182 gan un o Arglwyddi’r Gororau, Robert Mortimer a’i ddilynwyr. Er bod yr Arglwydd Robert wedi’i garcharu yng Nghaer-wynt am yr ymosodiad hwn, erbyn 1195, roedd Maelienydd a Chwmhir wedi cwympo i’w luoedd.
Roedd gan yr arglwyddi Eingl-Normanaidd a Chymraeg fuddiannau breintiedig yn yr abaty, ond erbyn canol y 13eg ganrif, Llywelyn Fawr oedd yn teyrnasu’r rhan hon o’r ffin. Dan nawdd Llywelyn, a fu farw ym 1240, mwynhaodd yr abaty ffyniant penodol, a mwy na thebyg yn ystod teyrnasiad Llywelyn y dechreuwyd gweithio ar yr eglwys helaeth. Roedd yn 242 troedfedd o hyd, ac wedi’i ddylunio i gystadlu â llawer o eglwysi cadeiriol Lloegr o ran ei maint – roedd 14 bwa yn wreiddiol. Ond ni chafodd byth ei orffen.
Roedd Powys – yr ardal lle safai’r Abaty – yn destun brwydro cyson gan y Saeson a’r Cymry ac roedd mynachod Cwmhir yn aml yn gweld eu hunain yn cael eu dal rhwng y brwydrau hyn. Ym 1231, roedd yr Abaty o fewn trwch blewyn o gael ei ddinistrio gan y Saeson er mwyn dial am weithredoedd mynach a dwyllodd byddin Lloegr.
Mae llawer yn credu mai Cwmhir yw man claddu corff di-ben Llywelyn ein Llyw Olaf ar ôl iddo gael ei lofruddio ger Llanfair-ym-Muallt ar 11 Rhagfyr 1282. Mae yna lechen fodern i gofio hyn, ond nid oes bedd pendant.