Gogoniant stêm yng nghalon Cymru
Yn wreiddiol, roedd y rheilffordd brydferth hon ar lannau Llyn Tegid yn rhan o Reilffordd y Great Western o Ganolbarth Lloegr i Abermaw ym Mae Ceredigion. Pan gafodd y rhan hon o’r rheilffordd ei chwtogi yn ystod y toriadau a wnaed gan Beeching ym 1965, fe drawsnewidiodd gwirfoddolwyr 4½ milltir ohoni yn rheilffordd gul a cafodd ei hailagor fel rheilffordd breifat. Golygai’r rheilffordd gul 2 droedfedd (60cm) y gallai gario locomotifau stêm oedd wedi gwasanaethu chwareli llechi Gwynedd ar un adeg, gyda nifer ohonynt wedi cael eu hadeiladu gan Hunslet o Leeds.
Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn aelod o Drenau Bach Cymru. Fe’i pennir fel rheilffordd y mae’n rhaid i selogion stêm ymweld â hi, heb sôn am y rhai sy’n dymuno mwynhau tirwedd hyfryd Llyn Tegid o gyfforddusrwydd eu cerbyd ar y trên.
Am brisiau mynediad ac amseroedd agor ewch i wefan Rheilffordd Llyn Tegid
Mae Llanuwchllyn oddi ar yr A494 i dde orllewin Llyn Tegid
Gorsaf Abermaw - 22 milltir
Safle bws agosaf yw Ysgol, Llanuwchllyn - 1/2 milltir
Llwybr beicio Llyn Tegid gerllaw
Mynediad cadair olwyn i'r orsaf a rampiau i 'r cerbydau. Dim toiledau anabl.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn (prif orsaf) Llanuwchllyn: SH 881300 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans : 125