Mwynhewch olygfeydd arfordirol a mynyddig bendigedig drwy deithio ar Reilffordd Arfordir y Cambrian
Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn arbennig iawn. Nid yw naill ai’n brif linell nac ychwaith yn llinell gangen ac fe’i hadeiladwyd rhwng yr 1850au a’r 1860au. Heddiw caiff rhai teithwyr lwcus deithio weithiau mewn trenau a dynnir gan injan stêm ond y prif atyniad yw prydferthwch arfordir Gwynedd. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch ac edrychwch ar y golygfeydd godidog a’r copaon ysblennydd yn mynd heibio, oll o gysur eich sedd.
Edrychwch am nodweddion anarferol sydd wedi’i diogelu ar y rheilffordd, gan gynnwys cysgodfa rhag eirlithrad dros ddarn o’r trac sy’n mynd ar ben y clogwyn yn y Friog (rhwng gorsafoedd Llwyngwril a Fairbourne) a’r llu o bontydd pren gwreiddiol yma ac acw ar hyd y llinell rheilffordd.
Pwllheli A497, Machynlleth A487 i ogledd y dref
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Gorsaf Pwllheli: SH 375350, Gorsaf Machynlleth: SH 744013 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123,124,135