Bryngaer a chanolfan seremonïau o Oes yr Efydd
Wedi’i leoli uwchben tref Harlech, mae’r bryn trawiadol hwn yn gartref i fryngaer a charneddau cerrig crwn, a chredir mai carneddau claddu neu seremoni ydyn nhw gan bod gweddillion dynol wedi’u canfod yma. Credir mai Castell Odo, ger Aberdaron, sy’n debyg iawn i Moel Goedog, yw un o’r bryngaerau cynharaf yng Nghymru ac o’r herwydd mae Moel Goedog wedi’i dyddio i’r Oes yr Efydd hwyr, rywbryd oddeutu’r mileniwm cyntaf OC. Credir bod y carneddau’n llawer hŷn. Wrth ddadansoddi’r dyddodion a ganfuwyd yn un o’r pydewau hyn, credir bod y cylchoedd cerrig yn dyddio yn ôl i oddeutu 2000 CC. Mae’r ddau safle gyferbyn â ffordd drac Folief Hir sydd wedi’i dynodi gan gyfres o feini hirion – saif 13 ohonynt yma hyd heddiw. Roedd y ffordd hon yn arwain o Foel Goedog ac yn teithio ar hyd yr arfordir tuag at Feini Hirion, Llanbedr.
Awgrymir bod y ddau gylch cerrig yn rhan o ddyluniad sengl ac efallai y cawsant eu hadeiladu ar yr un pryd. Mae’r cylch uchaf yn cynnwys cylch o glogfeini mawr wedi’u gosod ar ymyl mewnol clawdd cerrig sydd wedi’i orchuddio â glaswellt. Mae’n mesur oddeutu 6 metr (20 troedfedd) ar draws ac mae ei ganol wedi’i dyrchu a’i lefelu. Mae’r garnedd isaf yn strwythur tebyg, ond mae’r cerrig yma yn dalach. Bu i waith cloddio a wnaed ym 1978 ddatguddio nifer o bydewau gyda siarcol ynddynt. Roedd potiau mawr mewn tri o’r pydewau ac yr oedd esgyrn amlosgedig dau oedolyn ifanc mewn dau ohonynt. Yn ogystal, roedd esgyrn dynol amlosgedig mewn dau bydew arall. Nid oedd rhai o’r dyddiodion amlosgi yn ddyddodion mawr, ac mae’n debyg mai gweithgarwch seremonïol oedd y rhan fwyaf o’r gweithgarwch a wnaed yn y garnedd.
Bryngaer oddi ar isffordd o Llanbedr i Eisingrug oddi ar A496 Harlech i Bermo.
Harlech - 2.5 milltir
Gorsaf bws Harlech
Beicio ar y lôn
Dilynwch y trac a throi i'r dde ar ben y bryn. Mapiau eu hangen.
Llwybr troed yn ymyl. Bryngaer ar dir preifat, ond mynediad yn cael ei ganiatau i'r de orllewin. Rhywfaint o barcio ar gael ar ochr y ffordd - dim man parcio pwrpasol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 614325 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124