Amaethwyr cyntaf Prydain ac etifeddiaeth 6000 o flynyddoedd o ddatblygiad amaethyddol
Lleolir Cors y Gedol ar lwyfandir anwastad uwchben yr arfordir rhwng trefi Abermaw a Harlech, ac roedd unwaith yn gartref i un o dirluniau amaethyddol cyfoethocaf a mwyaf eang Prydain. Yn ystod yr Oes Iâ diwethaf gadawyd priddoedd rhewlifol yn llawn maetholion yma a alluogodd i’r tir gael ei ddefnyddio yn gyson i dyfu cnydau o tua 4000 CC hyd at ddiwedd y cyfnod canoloesol. Mae llawer o greiriau o’r etifeddiaeth amaethyddol cyfoethog yma wedi eu cadw yn yr ardal.
Mae archeolegwyr wedi bod yn ymwybodol o’r systemau caeau hynafol hyn am dros 50 mlynedd. Er hynny, nid oeddent yn sylweddoli eu graddau a’u cymhlethdod yn iawn tan y cynhaliwyd archwiliad llawn o’r ardal - ar y tir ac o’r awyr. Mae eu tarddiad bron yn sicr yn Neolithig ac mae’n debyg fod ganddynt berthynas gyda siambr gladdu Cors y Gedol gerllaw. Beddrod cromlech borth yw hwn sydd wedi ei niweidio gyda’r capfaen wedi cwympo ac yn pwyso yn erbyn dwy garreg sy’n sefyll gyda gweddillion carnedd a gredir oedd tua 30 metr (84 troedfedd) o hyd.
Yn y tirlun yma o derfynau caeau, ymgorfforwyd nifer o anheddau hynafol. Credir fod un grŵp o gytiau, gydag ond y seiliau ar ôl, yn dyddio o’r cyfnod Neolithig. Mae o leiaf tair ardal o anheddau Oes yr Haearn yn ogystal â thai crwn gwasgaredig yn system y caeau. Adeiladwyd dau grŵp arall ar wahân o gytiau yn y cyfnod Brythonig-Rufenig, tua 2000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir hefyd weddillion sawl adeilad hirsgwar sy’n dyddio ôl i gyfnod cynnar ôl-ganoloesol. Dynodwyd y tirlun o amgylch Cors y Gedol yn Heneb Restredig.
Mae Cors y Gedol wedi ei leoli oddi ar yr A496 Harlech i Abermaw. Tro cyntaf i'r chwith ar ôl Dyffryn Ardudwy. Gyrrwch i fyny ffordd syth iawn (Ffordd Gors) i Cors y Gedol - 1 milltir.
Prif Orsaf agosaf yw Harlech - 5 1/2 milltir. Gorsaf Dyffryn Ardudwy
Gorsaf bws agosaf gyferbyn â Ffordd Gors
Llwybr beicio A496 ar hyd y ffordd
O faes parcio Cors y Gedol troi i'r dde am Ffordd Ffridd Isaf trwy'r giat. Heneb ar y chwith o'r ffordd ar ochr y bryn
Parcio yn Cors y Gedol – cost bychan. Argymellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 604230 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124