Apêl radicaliaeth y Crynwyr yng ngogledd Cymru
Daeth y Crynwyr i’r amlwg yn gyntaf yn ystod anhrefn y Rhyfel Cartref yn Lloegr (neu’n fwy cywir y Rhyfel Cartref Prydeinig!) yn y 1640au. Roedd gŵr ifanc o’r enw George Fox yn anfodlon â rhwysg a hierarchaeth Eglwys Lloegr a dechreuodd ef hyrwyddo perthynas uniongyrchol rhwng yr unigolyn â Duw ac felly dileu’r angen am yr offeiriadaeth yn ganolwr.
Ystyriai’r Crynwyr cynnar eu bod yn dychwelyd at ffurf lai llygredig o Gristnogaeth. Roedd llawer o’u credoau yn ymadawiad radical o’r moesoldeb a dderbyniwyd yn yr oes honno.
Y berthynas bersonol hon â Duw a apeliodd i’r bobl â meddyliau annibynnol yn Nolgellau. Yn dilyn ymweliad gan George Fox ei hun yn 1657, sefydlwyd cymuned lewyrchus yma ac mae llawer o gyn cartrefi’r Crynwyr wedi goroesi.
O ganlyniad i erledigaeth grefyddol, mudodd llawer o Grynwyr Dolgellau i Pennsylvania yn 1686-7 wedi’u harwain gan Rowland Ellis. Ailadroddir eu hanes yn nofel 1969 Marion Eames, Y Stafell Ddirgel.
Roedd bod ag egwyddorion moesegol cryf mewn busnes yn ganolog i ffordd o fyw'r Crynwyr, yn enwedig fel y dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol effeithio ar fywydau pobl. Roedd Abraham Derby, Crynwr a oedd yn ddiwydiannwr, wedi cynllunio adeiladu ffwrnais chwyth yn Nolgun yn 1713 a datblygwyd y syniad gan Grynwyr lleol. Roedd y mwyngloddiau gerllaw yn Nhir Stent hefyd yn cael eu rhedeg gan Grynwyr ac yn cyflenwi’r mwyn haearn. Gwyddom fod ffwrnais Dolgun yn gweithredu rhwng 1719 a 1770.
Mynediad am Ddim
Oddi ar yr A470
Gorsaf agosaf yw Abermaw - oddeutu 10 milltir
Gorsaf bws yn Sgwâr Eldon
Traciau beic oddi ar y ffordd gyda Abermaw
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 728177 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 124