Cafodd Owain Gwynedd ei eni ar Ynys Môn oddeutu 1100, yn ail fab i Gruffudd ap Cynan. Olrheiniodd ei gyndeidiau’n ôl i Rhodri Mawr, rheolwr mawr Cymru yn y 9fed ganrif.
Gyda’i frodyr Cadwallon a Cadwaladr, arweiniodd Owain wrthsafiad y Normaniaid yn ystod blynyddoedd olaf teyrnasiad ei dad a pharhaodd i ehangu’r deyrnas. Yn sgil marwolaeth Cadwallon mewn brwydr ym 1132, cafodd Owain ei wneud yn etifedd i Wynedd, a phan fu farw ei dad ym 1137, etifeddodd deyrnas a oedd yn ymestyn dros y rhan fwyaf o Ogledd Cymru. I gychwyn, rhannodd Owain yr orsedd gyda’i frawd, ond ar ôl 1143, y fo oedd unig reolwr Gwynedd.
Cymerodd Owain fantais ar yr ansefydlogrwydd gwleidyddol yn Lloegr i ymestyn ei diriogaethau, ond ym 1157, goresgynnodd Brenin Harri III ar Wynedd. Gwnaeth byddinoedd Cymru a Lloegr gyfarfod ym Mrwydr Ewlo lle cafodd y Saeson eu trechu. Cafodd ymosodiad llyngesol ar Ynys Môn ei wthio yn ei ôl ar yr un pryd. Ond, er gwaetha’r llwyddiannau hyn, roedd byddin Harri’n parhau i fod yn llawer mwy na’r Cymru o ran niferoedd. Bu rhaid i Owain arwyddo cadoediad a dynnodd ymaith y diriogaeth yr oedd wedi’i hennill a’i orfodi i dalu teyrnged i frenin Lloegr.
Goresgynnodd Harri eto ym 1165 ac arweiniodd Owain gynghrair o dywysogion Cymru i gwrdd â’r lluoedd Seisnig mewn brwydr unwaith yn rhagor. Nid dyma oedd y tro cyntaf - na’r olaf - yng Nghymru i’r tywydd ymyrryd a gorfododd cenllif o law i Harri gilio. Dyma oedd y tro olaf i’r Saeson geisio goresgyn yn ystod teyrnasiad Owain. Dros y blynyddoedd a ddilynodd, adenillodd y tiriogaethau roedd wedi’u colli, a than ei farwolaeth ym 1170 roedd yn gallu disgrifio’i hun fel ‘Tywysog Cymru’ – sef y cyntaf i ddefnyddio’r teitl.
Cafodd Owain ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Bangor, yr eglwys y talodd ei dad am ei hailadeiladu.