Elinor de Montfort oedd gwraig Llywelyn ap Gruffudd a chafodd ei geni’n Lloegr. Dan deyrnasiad Llywelyn, cafodd Gwynedd ei goncro gan y Saeson yn y pen draw. Hi oedd y ddynes gyntaf y gwyddwn iddi ddefnyddio teitl Tywysoges Cymru, er y bu ei phreswyliad yn gymharol fyr.
Arweiniodd tad Elinor, Simon de Montfort, 6ed Iarll Caerlŷr, wrthryfel llwyddiannus yn erbyn Brenin Harri III o Loegr, tad Edward I. Ym 1263, ffurfiodd de Montford gynghrair gyda Llywelyn yn erbyn eu gelyn cyffredin, cynghrair a fyddai’n cael ei gryfhau yn sgil rhoi ei ferch fach i dywysog Gwynedd. Fodd bynnag, byddai peth amser yn mynd heibio cyn i’r pâr briodi.
Ym 1265, cafodd Simon de Montfort ei ladd ym Mrwydr Efsam a ffodd Elinor a’i mam i Ffrainc. Pan fu farw ei mam 10 mlynedd yn ddiweddarach, cynhaliwyd priodas â Llywelyn ‘trwy ddirprwy’ (heb y briodferch na’r priodfab yn bresennol yn y seremoni). Hwyliodd Elinor tua Chymru, ond cafodd ei llong ei chipio oddi ar Ynysoedd Sili. Cafodd ei charcharu, ym Mryste yn y lle cyntaf ac yn nes ymlaen yng Nghastell Windsor gan y brenin newydd, Edward I.
Yng Nghytundeb Aberconwy ym 1277, plygodd Llywelyn yn effeithiol i Edward ac, ym 1278, ac yn daer i gynhyrchu etifedd, ffurfiolodd ef ac Elinor eu priodas ym mhresenoldeb y brenin yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Ym 1282, yn y llys brenhinol yn Abergwyngregyn, bu farw Elinor yn geni merch, Gwenllian. Cafodd ei chladdu yn Llanfaes ar Ynys Môn ochr yn ochr â’i modryb Siwan, ‘Boneddiges Cymru’, a gwraig Llywelyn Fawr – gwraig Seisnig arall i dywysog o Gymru.