Maelgwn, a deyrnasodd yn hanner cyntaf y 6ed ganrif, yw un o reolwyr hanesyddol gwiriadwy cyntaf Gwynedd. Cafodd ei adnabod fel ‘Maelgwn Tal’ ac ymddengys iddo fod yn rhyfelwr arswydus. Ac os credwn yr adroddiadau cyfoes, roedd yn ŵr hynod ddrwg hefyd. Ein ffynhonnell gynharaf o fywyd Maelgwn oedd pregeth gan glerigwr Cymraeg o’r 6ed ganrif o’r enw Gildas oedd yn hallt ei feirniadaeth ohono.
Yn ôl Gildas, daeth Maelgwn i’r orsedd ar ôl lladd ei ewythr. Mewn edifeirwch, aeth yn fynach am gyfnod byr, ond dychwelodd yn fuan i fyd gwleidyddiaeth. Lladdodd ei wraig a’i nai, er mwyn iddo allu priodi gwraig weddw’r nai. Honodd Gildas ei fod yn ymhyfrydu ym mawl ei feirdd llys ac esgeulusodd yr eglwys. Galwodd Gildas Maelgwn yn ‘ddraig yr Ynys’ - cyfeiriad at fwystfil yr Apocalyps a chysylltiadau cryf y brenin gydag Ynys Môn - ac fe’i condemniodd fel y gwaethaf o bum rheolwr gresynus Prydain ar y pryd.
Mewn gwirionedd, ymddengys bod Maelgwn, ar adegau, wedi bod yn gefnogwr Cristnogaeth yn ei flynyddoedd cynnar yng Nghymru a bu’n noddwr sawl sant cynnar. Mae’n cael ei gysylltu’n aml hefyd â sefydlu Bangor gan Sant Deiniol. Roedd ei lys bron yn sicr ar Ynys Môn, fel y mae Gildas yn awgrymu, ond mae ffynonellau diweddarach yn ei gysylltu hefyd gyda Deganwy wrth geg Moryd Conwy.
Bu farw Maelgwn ym 547, o’r ‘fad felen’ (y dwymyn felen) yn ôl rhai ffynonellau.