Caiff Llywelyn ap Gruffudd ei adnabod hefyd fel Llywelyn ein Llyw Olaf, oherwydd ar ôl ei deyrnasiad ef y concrodd y Saeson Wynedd. Roedd yn ŵyr i Llywelyn Fawr a daeth i rym ym 1246 ar ôl marwolaeth ei ewythr, Dafydd ap Llywelyn. Dros yr 20 mlynedd nesaf, ehangodd ac atgyfnerthodd ei etifeddiaeth, hyd nes i’w barth ymestyn dros lawer o Gymru fodern. Erbyn 1258, roedd Llywelyn yn galw ei hun yn ‘Dywysog Cymru’, teitl a fyddai’n cael ei gydnabod gan nrenin Harri III o Loegr yng Nghytundeb Trefaldwyn ym 1267.
Dyma oedd uchafbwynt teyrnasiad Llywelyn ap Gruffudd. Bu farw Harri III ym 1272 a gwelodd y tywysog ei hun yn anghytuno’n frwd gyda’i olynydd, Edward I – yn rhannol oherwydd ei briodas ag Elinor, merch y gwrthryfelwr o Loegr, Simon de Montfort. Roedd De Montfort wedi brwydro yn erbyn Edward (y tywysog ar y pryd) ym Mrwydr Efsam ym 1265, lle cafodd ei ladd.
Ym 1274, gwrthododd Llywelyn deithio i dalu teyrnged i Edward yn Lloegr, ac ym 1277 gorymdeithiodd brenin Lloegr ar Wynedd yn ben ar fyddin enfawr. Ar ôl cymryd rheolaeth ar Ynys Môn, ‘mam Cymru’, newynodd llu Lloegr Llywelyn a’i wŷr nes iddynt ymostwng. Yn nes ymlaen y flwyddyn honno yn Aberconwy, cafodd cytundeb arall ei lofnodi lle cafodd Llywelyn ei orfodi i dderbyn sofraniaeth brenin Lloegr. Cadwodd deitl ‘Tywysog Cymru’ ond cafodd ei diroedd a’i statws ei hun eu gostwng yn ddramatig.
Ym 1282, cododd y Cymry, wedi’u cymell gan Dafydd, brawd Llywelyn, yn erbyn y Saeson am y tro olaf. Dechreuodd y gwrthryfel hwn yn ddiarwybod i Llywelyn, ond pan gafodd gynnig Iarllaeth yn Lloegr petai’n ildio’i hawliau ar Wynedd, gwrthododd ac aeth i arfogi ei hun. Wrth i Dafydd wrthsefyll y Saeson yng ngogledd Cymru, teithiodd Llywelyn i’r de i gasglu cefnogaeth. Cafodd ei ladd, trwy frad mae’n debyg, y tu allan i Lanfair ym Muallt ar 11 Rhagfyr, 1282. Cafodd pen Llywelyn ei dorri a’i anfon i Lundain, lle cafodd ei arddangos yn gyhoeddus.