Prifadeiladydd cestyll Edward I
Ganwyd Master James of St George yn Savoy yn yr Alpau Ffrainc tua 1230, a credir iddo gyrraedd Cymru tua 1278. Yn fwy adnabyddus i bobl yng ngogledd Cymru fel prif adeiladydd cestyll Edward I yng Nghonwy, Caernarfon, Harlech ac yn ddiweddarach, Biwmares.
Er iddo fod â rhan yng nghwblhau adeiladu Castell Fflint nid ef oedd y pensaer gwreiddiol. Yn 1285 apwyntiwyd fel Meistr y Gwaith Brenhinol yng Nghymru. Cafodd ei dalu 3 swllt y dydd, a oedd yn swm mawr yn y dyddiau hynny.
Ei waith a’i ddyluniadau mwyaf adnabyddus yw cestyll Harlech, Conwy a Chaernarfon, a ddechreuwyd yn 1283, ac wedyn adeiladu Biwmares a ddechreuwyd yn 1295. Mae’r pedwar castell wedi bod yn Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1984.
Gelwir Biwmares yn aml y castell perffeithiaf yn nhermau amddiffyn oherwydd yr waliau consentrig a’r ffaith fod James o St George wedi gallu adeiladu ar dir gwastad tra roedd cynlluniau Harlech, Caernarfon a Conwy wedi eu cyfyngu gan greigiau gwaelodol ble yr adeiladwyd y cestyll.