Arweinydd gwrthryfel yn erbyn y Saeson yn 1294 sy’n llosgi tref Caernarfon
Credir ei fod yn gefnder pell i Llywelyn ap Gruffydd. Yn dilyn anghydfod rhwng Llywelyn a thad Madog, treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd cynnar yn Lloegr gan fwynhau nawdd llys Lloegr.
Roedd tad Madog yn dal tiroedd ym Meirionydd, ond collwyd y rhain oherwydd ei wrthwynebiad i Llywelyn ap Gruffydd, ac yn 1278 bu i Madog erlyn Llywelyn, yn aflwyddiannus, am ddychwelyd ei diroedd. Dim ond ar ôl marwolaeth Llywelyn yn 1282 mae’n ymddangos fod Madog wedi dychwelyd i Gymru, a rhoddwyd tiroedd iddo ar Ynys Môn. Erbyn 1294 mae’n darganfod ei hun yn arweinydd y gwrthwynebiad i’r gorthrymwyr Seisnig.
Er bod y gwrthryfel wedi dechrau’n dda i’r gwrthryfelwyr o Gymru, gan losgi tref Caernarfon oedd yn Saesneg ei hiaith ac wedi ei hadeiladu gan y Saeson, gorchfygwyd Madog ym Mrwydr Maes Meidog neu Moydog ger y Trallwng, ac fe’i gorfodwyd i ffoi i fynyddoedd Eryri.
Yn y diwedd ildiodd Madog yn yr haf 1295, ac aethpwyd ag ef i Lundain. Ni wyddys beth oedd ei ffawd, er na chredir ei fod wedi ei ddieneidio.
Roedd canlyniadau i’w wrthryfel fodd bynnag, ac yn dilyn y digwyddiad hwn yr adeiladodd Edward I ei gastell olaf ym Miwmares yn 1295.