Un o wrthryfelwyr mwyaf Cymru erioed, a’r Cymro olaf i ddal y teitl Tywysog Cymru
Roedd Owain Glyndŵr o dras fonheddig. Ar farwolaeth ei dad cafodd ei fabwysiadu, pan oedd tua 11 oed, gan y barnwr Eingl-gymreig, Syr David Hanmer. Yn ddiweddarach priododd Glyndŵr â Margaret, merch Syr David yn 1383 gan ychwanegu teitlau Sgweier Sycharth a Glyndyfrdwy at ei anrhydeddau.
Mae’n wybyddus fod Glyndŵr wedi ymladd dros frenin Lloegr, Richard II yn niwedd y 14eg ganrif. Hyd at hynny credir fod Glyndŵr wedi byw bywyd cyfforddus bonheddwr y Mers.
Bu dymchwel Richard II gan Harri IV yn 1399 yn newid cwrs bywyd Owain yn ddramatig. Yn ddiddorol, cafodd Richard II ei fradychu yng Nghastell Conwy. Yn dilyn y digwyddiad hwn bu anghydfod rhwng Owain a Reginald Grey o Ruthun dros berchnogaeth tir. Yr anghydfod gyda Reginald a’r hyn roedd ef yn ei ystyried yn ddiffyg cydymdeimlad gan Harri IV, a achosodd i Owain i godi ei faner yn erbyn Coron Lloegr ar 16 Medi 1400 yng Nglyndyfrdwy.
Yng Nglyndyfrdwy, ei gartref ger Corwen, cafodd Owain ei gyhoeddi’n Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr. Mae’r gwrthryfel Glyndŵr yn parhau am y 10-12 mlynedd nesaf nes iddo chwythu ei blwc yn y diwedd. Mae’r gwrthryfel wedi ennill statws mytholegol bron, am na chafodd Glyndŵr erioed ei fradychu na’i ddal. Mae sawl damcaniaeth yn bodoli am ddyddiau olaf Glyndŵr, o gael ei weld ar ei ben ei hun ar Fryniau Berwyn i fyw bywyd tawel ar ystâd ei ferch yn Swydd Henffordd.
Yn ystod y gwrthryfel cafodd llawer o drefi eu llosgi, medrodd Glyndŵr gipio castell Harlech a chynnal ei lys yno am 4 blynedd. Ei weledigaeth oedd Senedd i Gymru a Phrifysgol i Gymru. Mae Glyndŵr yn parhau i fod yn un o arwyr mawr Cymru ac hyd heddiw yn swyno ac ysbrydoli cenedlaethau newydd o genedlaetholwyr Cymreig.