Mae Llywelyn ab Iorwerth yn cael ei adnabod mewn hanes fel ‘Llywelyn Fawr’ ac mae’r ansoddair yn adlewyrchu’r ffaith iddo uno mwy o Gymru dan ei reolaeth nag unrhyw un o’i ragflaenwyr.
Y fo oedd ŵyr rheolwr pwerus Cymru, Owain Gwynedd, a daeth Llywelyn yn rhan o frwydr am bŵer llinachol yn gynnar. Erbyn 1200 roedd wedi disodli Dafydd a Rhodri – ei ddau ewythr a’i brif herwyr i orsedd Gwynedd. Pan fu farw ei gefnder, Gruffudd ap Cynan yn yr un flwyddyn honno, daeth Llywelyn yn rheolwr diamheuol dros Ogledd Cymru. Un o’i symudiadau diplomataidd cyntaf oedd ymgynghreirio gyda Brenin John o Loegr, cynghrair a atgyfnerthodd bum mlynedd yn ddiweddarach trwy briodi â merch anghyfreithlon John, sef Siwan. Dros y blynyddoedd nesaf, ychwanegodd yn sylweddol at ei diriogaethau yng Nghymru.
Fodd bynnag, erbyn 1211, surodd y berthynas gyda Choron Lloegr a goresgynnodd John Wynedd gyda’r bwriad o ddinistrio Llywelyn unwaith ac am byth. Llwyddodd gwaith pledio Siwan ar ran ei gŵr i gadw Llywelyn mewn grym, ond lleihaodd ei ddylanwad yn fawr a chollodd ei holl diroedd i’r dwyrain i Afon Conwy. Fodd bynnag, erbyn 1216, roedd Llywelyn wedi dod yn brif reolwr yng Nghymru unwaith eto, a pharhaodd felly tan ei farwolaeth. Erbyn oddeutu 1230, roedd yn galw’i hun yn ‘Dywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri’, ond mewn gwirionedd, aeth ei awdurdod y tu hwnt i Ynys Môn a Gogledd Cymru.
Mae dal modd gweld olion o deyrnas 39 mlynedd Llywelyn yn nhirwedd Cymru heddiw, ar ffurf cestyll gwych Cricieth, Dolbadarn, Dolwyddelan a Chastell y Bere. Cawsant eu hadeiladu i amddiffyn y ffyrdd hollbwysig i Eryri a’r tiroedd pori brenhinol y dibynnodd economi Gogledd Cymru arnynt. Sefydlodd Llywelyn sawl mynachlog hefyd a datblygodd berthynas hynod agos gyda mynachod Sistersaidd Abaty Aberconwy. Dyna lle y bu farw a dyna lle cafodd ei gladdu, ar ôl iddo ddioddef strôc.