Tref mewn lleoliad hyfryd, sy’n parhau i ddangos ei darddiadau canoloesol.
Mae tref y Bala’n sefyll ar ben gogleddol Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae Dyffryn Dyfrdwy’n ymestyn i’r Dwyrain, wrth i’r Afon Wnion lifo i’r de-orllewin tuag at Ddolgellau. Caiff pwysigrwydd strategol yr ardal o adeg gynnar ei awgrymu gan weddillion sawl gwrthglawdd Rhufeinig a chanoloesol sydd hwnt ac yma’r dirwedd.
Yr un sydd wedi’i gadw orau o blith y rhain yw Tomen y Bala, tomen, neu fwnt castell mawr, sy’n sefyll yng nghanol y dref. Mae’n naw metr o uchder a chyda diamedr o 40 metr, dyma un o’r cloddweithiau canoloesol mwyaf yng Nghymru. Mae’r ffos a’i hamgylchynodd ar un tro bellach wedi’i lenwi ac nid oes unrhyw sôn am y beili - yr amgae a fyddai wedi sefyll ar waelod y domen. Fodd bynnag, mae’r mwnt ei hun wedi’i gadw’n dda ac mae bellach yn ffurfio canolbwynt gardd gyhoeddus.
Mae’n bosibl i Domen y Bala gael ei adeiladu’n wreiddiol gan y Normaniaid, ond erbyn y 12fed ganrif, mae’n ymddangos iddo gael ei ddefnyddio fel llys, neu lys brenhinol, y tywysogion ar gyfer cwmwd Tryweryn. Ym 1202, cymerodd Llywelyn Fawr y castell trwy rym oddi wrth Elis ap Madog, Arglwydd Penllŷn, gan ddinistrio’i adeiladau fel rhan o ymgyrch i ymestyn ei diriogaethau yn y Dwyrain. Nid yw’r castell i weld fel petai wedi’i ailadeiladu ond ym 1310, sefydlodd yr uchelwr o Loegr, Roger Mortimer fwrdeistref yma.
Mae’n werth dringo’r grisiau sydd wedi’u torri i mewn i’r domen. O’r pen uchaf, cewch syniad clir o gynllun y fwrdeistref Seisnig ganoloesol hwn. Mae gan y brif stryd hir ddwy lôn lai yn rhedeg yn gyfochrog iddi, a rhwng y rhain gallwch barhau i weld yn glir rhaniadau’r ‘rhandiroedd bwrdais’ - yr unedau o eiddo a gafodd eu rhentu gan eu preswylwyr.
Sylfaen wych i archwilio Dyffryn Dyfrdwy ac ymyl orllewinol Gwynedd.
Mynediad am Ddim
Mae’r A494 yn rhedeg trwy’r Bala.
15 milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed.
Mae bysiau rheolaidd yn gwasanaethu’r Bala. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae’r A494 yn rhedeg trwy’r Bala.
Mae modd mynd at y safleoedd yn y Bala’n hawdd ar droed.
Hawdd. Caniateir cŵn. Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH92803609 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: 52.909911 ; -3.601584000000003 Taflen map OS explorer: OL23