Castell tywysogaidd chwilfrydig, nad oes llawer yn gwybod amdano, gyda golygfeydd heb eu hail.
Gellir dod o hyd i adfeilion Castell Carndochan ar gopa clogwyn creigiog, rhyw 6 milltir i’r gorllewin o’r Bala. Nid dyma’r hawsaf o gestyll Cymru i ymweld ag ef, ond mae’n sicr yn werth chweil i’r archwiliwr anturus. Mae’r daith serth i’r copa’n arwain at un o’r golygfeydd gorau yn Eryri, gyda mynyddoedd ystod Arenig yn codi i’r gogledd ac Afon Dyfrdwy yn troelli trwy ei dyffryn i’r dwyrain.
Mwy na thebyg, cafodd Castell Carndochan ei hun ei adeiladu gan Llywelyn Fawr, rhywbryd rhwng 1215 a 1230. Amddiffynnodd y gaer ffin ddwyreiniol Gwynedd a’r llwybr pwysig sy’n parhau i redeg rhwng y Bala a Dolgellau, yn ogystal â chynnig diogelwch i’r gyrroedd brenhinol a borodd ar borfa’r ucheldir. Mae gweddillion sawl hafoty (anheddau syml, siâp petryal) wedi’u canfod ar y tiroedd o gwmpas y castell. Aneddiadau’r cowmyn a ofalodd am yr anifeiliaid dros fisoedd yr haf oedd y rhain.
Mae digon o’r castell ei hun yn weddill i gael syniad eithaf clir o’r cynllun. Mae waliau o garreg, rhai’n dal i sefyll i uchder o ryw 2 fetr, yn amgylchynu ardal ganolog. Ar yr ochr ddwyreiniol, mae’r graig garw naturiol wedi’i chynnwys yn y wal. Ar y copa, gellir gweld olion y tri phrif adeilad. Y rhai sydd wedi’u cadw orau a’r rhai mwyaf o’r cyfan yw waliau toredig tŵr siâp D i’r de – siâp adeilad a gafodd ei ffafrio’n arbennig gan Llywelyn Fawr i bob golwg.
Nid yw Castell Carndochan wedi’i ymchwilio’n helaeth gan archeolegwyr; felly nid yw’n glir sut na phryd y gorffennodd weithredu. Fodd bynnag, datguddiodd cloddiadau o’r 19eg ganrif bridd wedi’i dduo, esgyrn a siarcol, sy’n awgrymu y gallai ei ddiwedd fod wedi digwydd yn sydyn ac yn dreisgar.
Yn berffaith i fwynhau taith gerdded sionc i ffwrdd o’r dorf.
Rhyw 7 milltir o’r Bala, oddi ar yr A494.
26½ milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed.
Dim gwasanaeth bws addas.
2 filltir i’r gogledd-orllewin o Lanuwchllyn.
2 filltir i’r gogledd-orllewin o Lanuwchllyn.
Anodd. Angen esgidiau cerdded. Caniatâd i gŵn.
Eir at y castell ar dir preifat ac mae angen ichi ofyn am ganiatâd y ffermwr yn Fferm Dolhendre gerllaw i groesi’r caeau sy’n arwain ato. Cysylltwch â Mr. Gwyn Roberts (01678 540 348).