Dilynwch Lwybr Hiraethog i ogledd pentref Pentrefoelas, ar draws ambell i gae, a byddwch yn dod o hyd i fryncyn coediog, isel. Ar y pen, y tu cefn i ffermdy, mae carreg dal wedi’i gosod yn y tir. Mae’n rhyw 8 troedfedd o uchder, wedi’i gorchuddio mewn mwsogl ac wedi’i diogelu gan reiliau o haearn. Mae hwn yn atgynhyrchiad o gofeb a godwyd ym mhentref Pentrefoelas ei hun yn y 13eg ganrif i anrhydeddu Llywelyn Fawr. Mae’r gwreiddiol bellach yn cael ei letya yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ceir arysgrif ar y gofeb wreiddiol, mewn cyfuniad o Ladin a’r Gymraeg, ac mae’n rhoi tarddiad ffafriol o’r enw Llywelyn – neu Levelinus yn Lladin:
“Golyga’r enw Llywelyn llew
Braich Nerthol
Tywysog Llywelyn o Ogledd Cymru.”
Sefydlwyd y garreg gan fynachod Abaty Sistersaidd Aberconwy, a breswyliai’r safle lle mae tref fodern Conwy bellach yn sefyll. Mae’r garreg yn nodi eu diolchgarwch i Llywelyn am roi ffermdir o gwmpas Pentrefoelas ar ddechrau’r 13eg ganrif. Roedd gan y mynachod reswm da i fod yn ddiolchgar. Rhoddodd Llywelyn nhw yng ngofal bron 3000 o erwau, lle gallent bori’r da byw yr oeddent yn enwog amdanynt.
Cadwodd Llywelyn berthynas agos gyda’r mynachod yn Aberconwy ar hyd ei oes. Pan ddioddefodd strôc ym 1240, aeth i gilio i’w mynachlog, a nhw roddodd driniaeth iddo yn ei ddiwrnodau olaf. Yn ôl pob sôn, aeth y tywysog rhyfelgar yn fynach ei hun hyd yn oed, ychydig cyn ei farwolaeth.
Mwynhewch daith gerdded fer ond diddorol i’r fan hon nad oes llawer yn ymweld â hi.
Mynediad am Ddim
Mae’r llwybr troed i’r Garreg yn arwain oddi ar y B5113, ychydig i’r gogledd o bentref Pentrefoelas.
7 milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed.
Mae bysiau’n stopio ym Mhentrefoelas. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae’r llwybr troed i’r Garreg yn arwain oddi ar y B5113, ychydig i’r gogledd o bentref Pentrefoelas. Nid yw’n addas ar gyfer seiclo.
Mae’r llwybr troed i’r Garreg yn arwain oddi ar y B5113, ychydig i’r gogledd o bentref Pentrefoelas.
Hawdd. Angen esgidiau cerdded. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: SH 8692652093 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -3.688481, 53.054116 Taflen map OS explorer: OL18