Safle mynachlog fawr, lle bu farw Llywelyn Fawr.
Mae tref Conwy’n diogelu moryd fras yr afon y mae’n cymryd ei henw ohoni. Heddiw, mae’n amlwg oherwydd ei waliau a’i chastell canoloesol sydd wedi’u cadw’n wych, a gychwynnodd ym 1283 gan y brenin Edward I o Loegr ar ôl iddo goncro Gwynedd. Y gred yw bod y rhain wedi’u hadeiladu’n rhannol gan waith cerrig a dynnwyd o Abaty Sistersaidd mawr Aberconwy, a arferai sefyll ar y safle sy’n cael ei ddefnyddio gan y dref fodern.
Ar ôl ei fuddugoliaeth, symudodd Edward fynachod Aberconwy i Abaty Maenan, ychydig filltiroedd i lawr y dyffryn, a defnyddiodd yr adeiladau mynachaidd helaeth fel sylfaen i’w weithredoedd ei hun tra’r oedd ei gastell yn cael ei adeiladu. Y cyfan sy’n goroesi yn Abaty Aberconwy heddiw yw eglwys y plwyf y Santes Fair a’r Holl Saint yng Nghonwy. Ar un tro, ffurfiodd bwtresi ar y pennau dwyreiniol a gorllewinol a darnau o’r wal ogleddol ran o adeilad gwreiddiol y 12fed ganrif. Cafodd weddill yr eglwys bresennol ei hadeiladu a’i hymestyn ar amryw adegau rhwng y 14eg ganrif a’r 20fed ganrif.
Cafodd Abaty Aberconwy ei gwblhau ym 1186 a daeth Llywelyn Fawr yn noddwr brwd iddo. Tua’r flwyddyn 1200, rhoddodd dros 40,000 erw o dir i’r mynachod eu ffermio ar hyd a lled Gwynedd, a bu ganddo berthynas agos gyda nhw ar hyd ei oes. Yn Abaty Aberconwy treuliodd ei ddiwrnodau olaf ar ôl dioddef strôc. Mae’n bosibl iddo hefyd gymryd urddau cysegredig ei hun ychydig cyn ei farwolaeth.
Cafodd Llywelyn ei gladdu yn Aberconwy a phan symudodd y mynachod i Faenan, aethant â’i gorff gyda nhw. Cafodd ei symud eto ar ôl i Abaty Maenan gael ei ddarostwng gan Harri VIII ym 1547, ac mae modd gweld arch garreg (wag) Llywelyn yn yr eglwys yn Llanrwst heddiw.
Man heddychlon i gael seibiant ac i fyfyrio cyn archwilio waliau rhyfeddol tref Conwy ac ymweld â’r castell.
Mynediad am Ddim
Mae modd dod o hyd i Eglwys y Santes Fair yn hawdd yng nghanol tref Conwy.
Mae gorsaf drenau Conwy ½ milltir i ffwrdd.
Mae sawl bws yn gwasanaethu Conwy. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae Eglwys y Santes Fair yng nghanol tref Conwy.
Mae Eglwys y Santes Fair yng nghanol tref Conwy.
Hawdd. Nid oes angen dillad arbennig. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH78157753 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -3.828839, 53.280683 Map OS explorer: OL17