Cartref llinach Gymreig frenhinol.
Saif Aberffraw wrth geg Afon Ffraw, ar arfordir de-orllewinol Ynys Môn. Mae’n lle tawel, cymedrol heddiw, ac mae’r ymwelydd achlysurol yn annhebygol o ddyfalu iddo fod yn brif sedd i rym y Cymry ar un tro. Ac eto, erbyn y 6ed ganrif, ac o bosibl yn gynharach, sefydlwyd llys brenhinol yma. Ym 1230, mabwysiadodd Llywelyn Fawr deitl swyddogol ‘Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri’.
Trwy neilltuo’r ddau le hyn, roedd Llywelyn yn dangos hyd a lled ei deyrnas. Mae Eryri’n dirwedd garw, tra uchel, mynyddig ar y tir mawr, y tyfodd gyrroedd brenhinol y tywysogion yn dew ar y llethrau ac yn y dyffrynnoedd. O gymharu, mae Aberffraw’n gymuned ar ynys, sy’n gorwedd yn isel ac wedi’i hamgylchynu gan dwyni tywod ysgafn o ran eu hymchwydd a chaeau âr. Cyfeiriwyd at Ynys Môn fel “mam Cymru”, ac yn oes Aur tywysogion Gwynedd, Aberffraw oedd ei anheddiad pwysicaf.
Roedd Aberffraw’n safle llys, neu balas brenhinol. Yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, cafodd Gwynedd ei rannu’n feysydd gweinyddol a gafodd eu galw’n gymydau. Roedd treflan a oedd yn cael ei hadnabod fel maerdref ym mhob cwmwd ac roedd gan bob maerdref lys, neu balas, sef canol yr ystâd frenhinol. Teithiai’r tywysogion a’u gosgordd rhwng y llysoedd hyn ar hyd y flwyddyn, gan ddiddanu cynghreiriaid a gwŷr pwysig, gan weinyddu cyfiawnder a chasglu trethi.
Nid oes gweddillion perthnasol o’r llys yn Aberffraw heddiw. Y gred yw i’r adeiladau brenhinol helaeth sefyll gerllaw Eglwys Sant Beuno, y mae rhannau ohoni’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif. Ar ôl concwest Edward o Wynedd, cafodd y llys ei ddatgymalu a’i ddefnyddio i ddarparu defnydd ar gyfer Castell Biwmaris, a dirywiodd ffortiwn Aberffraw.
Pentref heddychlon, a sylfaen dda i archwilio arfordir gorllewin Ynys Môn, ar droed neu yn y car.
Mynediad am Ddim
Saif Aberffraw ar yr A4080.
2½ filltir o orsaf drenau Bodorgan.
Mae bysiau’n stopio wrth y Swyddfa Bost yn Aberffraw. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Saif Aberffraw ar yr A4080, gerllaw arfordir gorllewinol Ynys Môn.
Saif Aberffraw ar yr A4080, gerllaw arfordir gorllewinol Ynys Môn.
Hawdd. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH38306900 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.464257, 53.191907 Taflen map OS explorer: 262