Cafodd ei adeiladu gan dywysogion Cymru a’i goncro gan frenin Lloegr, dim ond i rebel Cymreig ei losgi.
Gan sefyll yn uchel ar bentir, mae adfeilion Castell Cricieth yn cynnig man heddychlon, ond gwyntog i syllu dros ddyfroedd Bae Tremadog. Ond fel y mae’r waliau wedi’u malurio a’r tyrau wedi’u creithio gan frwydrau’n tystio, rodd y safle’n destun sawl ymosodiad treisgar yn ystod ei fywyd.
I bob golwg, cychwynnodd y gwaith o adeiladu’r castell ar ddechrau’r 13eg ganrif, yn dilyn anogaeth Llywelyn Fawr. Mwy na thebyg mai fo oedd yn gyfrifol am nodweddion pensaernïol mwyaf trawiadol y lle – y ddau dŵr siâp D mawr sydd bob ochr i’r porthdy mewnol, a ddiogelwyd ar un tro gan borthcwlis a gatiau o haearn hefyd. Mae’r tyrau’n parhau i reoli’r adfail a thref Cricieth.
Yn ogystal â chadw’r goresgynwyr allan, cafodd waliau cryfion y castell eu defnyddio i gadw dynion i mewn; cafodd y gaer ei defnyddio fel carchar fwy nag unwaith. Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr, cwerylodd ei feibion dros yr olyniaeth a chadwodd Dafydd ap Llywelyn ei hanner brawd Gruffudd, yn garcharor yng Nghricieth am ddwy flynedd.
Mae’n ymddangos bod Llywelyn ein Llyw Olaf wedi ymestyn y gwrthgloddiau yn y 1260au, gan ychwanegu’r wal allanol a’r ddau dŵr siâp petryal i’r gogledd ac i’r de-orllewin. Wedyn, ym 1283, pan goncrodd Edward I Wynedd, addasodd tŵr y gogledd i ddarparu ar gyfer fforch daflar fawr. Caniataodd yr amddiffynfeydd hyn i’r Saeson wrthsefyll gwarchae gan wrthryfelwyr Cymreig ym 1292.
Fodd bynnag, Cymro oedd yr hyn a wnaeth pethau i Gastell Cricieth yn y diwedd. Ym 1404, fel rhan o’r gwrthryfel yn erbyn y Saeson, cipiodd Owain Glyndŵr y lle a’i roi ar dân, gan adael y gragen wych a welwch heddiw. Ceisiwch ddod o hyd i’r marciau llosg o’r dinistr tanllyd olaf hwn ar adfeilion y tŵr de-orllewinol.
Safle gwych i’r teulu, gyda golygfeydd hyfryd o’r môr. Yn ddelfrydol am bicnic – os na fydd hi’n rhy wyntog.
Mae’r castell yn edrych dros dref Cricieth.
Llai na milltir o orsaf drenau Cricieth.
Mae bysiau rheolaidd yn gwasanaethu Cricieth. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae’r castell yng nghanol Cricieth.
Mae’r castell yng nghanol Cricieth.
Hawdd. Mae esgidiau cerdded yn cael eu cynghori. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH49993773 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.232499, 52.916064 Taflen map OS explorer: 254