Man gorffwys olaf sant Cymraeg pwysig.
Cafodd Eglwys gorffog Sant Beuno’i hadeiladu’n bennaf yn yr 16eg ganrif. Ond mae’n sefyll ar safle adeilad llawer cynharach, fodd bynnag, a oedd yn cynnwys arch sant Cymraeg o’r 7fed ganrif y cafodd yr eglwys ei henwi ar ei ôl.
Mae modd dadlau mai Beuno yw sant pwysicaf Gogledd Cymru. Roedd yn dod o Bowys yng nghanolbarth Cymru’n wreiddiol, roedd yn gweithio fel cenhadwr dan ddiogelwch Cadfan, rheolwr Gwynedd. Cwerylodd mab ac etifedd Cadfan, sef Cadwallon, gyda Beuno, ar ôl anghydfod dros dir. Cafodd y mater ei ddatrys yn y pen draw yn sgil ymyrraeth Gwyddaint, cefnder Cadwallon, a rhoddwyd treflan Clynnog Fawr i Beuno, lle sefydlodd fynachlog. Mae’r chwedl yn priodoli rhai gwyrthiau iddo, gan gynnwys iachau Santes Gwenfrewi ar ôl iddi gael ei dienyddio gan garwr oedd wedi’i wrthod ganddi!
Mae Beuno wedi’i gladdu yn y fan lle mae’r capel sy’n uno gyda’r eglwys bellach yn sefyll. Yn y cyfnod canoloesol, byddai’r pererinion yn stopio fan hyn i dalu teyrnged ar eu ffordd i Ynys Enlli, ar ben pellaf pen Llŷn. Dywedir bod sawl gwyrth iachau wedi digwydd wrth yr arch ac wrth Ffynnon Sant Beuno gerllaw. Mae’r incwm a ddeilliodd yn sgil yr ymwelwyr hyn yn esbonio sut cafodd eglwys blwyf mor fawr ei chodi mewn pentref cymharol fach. Cafodd arch Beuno ei dymchwel ym 1856 ond gallwch weld rhan o fwa oedd ar ei phen yn yr eglwys heddiw.
Mae arteffact diddorol arall yn y fynwent – deial haul o garreg sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Mae o arddull Wyddelig ac mae’n dyddio, mwy na thebyg, i deyrnasiad Gruffudd ap Cynan, rheolwr Gwynedd yn yr 11eg-12fed ganrif; cafodd ei eni yn Nulyn, i dad o Gymru ac i fam Wyddelig-Lychlynnaidd. Mae’r deial haul yn cynnig atgof amlwg o’r cysylltiadau cryf a fodolodd rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod teyrnasiad Gruffudd.
Ewch i’r ffynnon gyfagos a chrwydrwch o gwmpas y fynwent helaeth.
Mynediad am Ddim
Mae’r eglwys yn sefyll yng nghanol pentref bach Clynnog Fawr ar yr A499.
10.6 milltir o orsaf drenau Pwllheli.
Mae bysiau rheolaidd rhwng Caernarfon a Phwllheli’n stopio yng Nghlynnog Fawr. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae’r eglwys yn sefyll yng nghanol pentref bach Clynnog Fawr.
Mae’r eglwys yn sefyll yng nghanol pentref bach Clynnog Fawr.
Hawdd. Nid oes angen dillad arbennig. Ni chaniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH41444969 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.365432, 53.020818 Taflen map OS explorer: 254