Golygfeydd godidog dros gopa bryn caerog.
Mae mynydd creigiog ac wedi’i orchuddio mewn grug a sgri Carn Fadryn yn codi’n sydyn allan o glytwaith o gaeau âr, yng nghanol Pen Llŷn. Caiff ei goroni gan adfeilion helaeth a chwilfrydig bryngaer helaeth o’r Oes Haearn a chastell o’r 12fed ganrif, ac mae’r daith gerdded i fyny i’r copa’n werth yr ymdrech.
Gallwch ganfod gweddillion anheddau, rhai ohonynt o’r Oes Haearn ac anheddau iau yr holl ffordd dros lechweddau serth y mynydd, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gorwedd yn y wal allanol o garreg sy’n amgáu dros 10 hectar o’r copa. Dyma wal y ddwy gaer ddiweddarach o’r Oes Haearn ar Garn Fadryn, ac ynddi gallwch weld adfeilion anhrefnus sawl adeilad, y mae gan rai ohonynt glosydd neu erddi gyda waliau bach o’u cwmpas. Ai pentref haf oedd hwn, neu oedd pobl yn byw ynddo drwy’r flwyddyn gron? Efallai mai noddfa adeg rhyfel ydoedd? Mae archeolegwyr yn parhau i ddadlau’r mater.
Ar union gopa’r bryn, wrth ymyl dibyn, mae gweddillion un o’r cestyll carreg hynaf o Gymru’r canoloesoedd. Gwyddwn fod hwn yn ei le erbyn diwedd y 12fed ganrif yn ôl adroddiad y croniclydd, Gerallt Gymro Ymwelodd â’r ardal ym 1198 a nododd fod “dau gastell o garreg newydd gael eu codi: un a elwir yn Deudraith...y llall yw Carn Mardryn”. Cafodd y ddau gastell eu hadeiladu yn y cyfnod tymhestlog yn dilyn marwolaeth Owain Gwynedd ym 1170, a oedd yn ei hanfod yn adeg o ryfel cartref ar y tir.
O’r copa, ceir golygfeydd yr holl ffordd ar hyd cefn pen Llŷn. Mae modd gweld Bae Ceredigion yn glir i’r de, wrth i fynyddoedd Eryri godi i’r gogledd. Ac, ar ddiwrnod clir, dywedir bod modd gweld cyn belled â mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon.
Safle arbennig am daith gerdded heriol a golygfeydd eang o Ben Llŷn a thu hwnt.
Mynediad am Ddim
4 milltir o bentref Tudweiliog ar y B4417.
8 milltir o orsaf drenau Pwllheli.
Ceir rhai bysiau yng nghanol yr wythnos (Gwasanaeth 8a) o Bwllheli i Garnfadryn. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
4 milltir o bentref Tudweiliog ar y B4417, ar y ffyrdd bach.
4 milltir o bentref Tudweiliog ar y B4417, ar y ffyrdd bach.
Canolig i anodd. Angen esgidiau cerdded.