Thomas Bach, yr injan danc
Mae Rheilffordd Llyn Padarn yn rhedeg am 2½ milltir ar hyd glan gogleddol y llyn. Yn wreiddiol cafodd ei hadeiladu fel llinell 4 troedfedd (1219mm) i gludo llechi o’r chwarel yn Ninorwig i’r Felinheli. Ailagorwyd y llinell fel rheilffordd gul 1 droedfedd 11 modfedd (597mm) ym 1971, i gludo teithwyr drwy dirwedd trawiadol Eryri. Yn 2003 ehangwyd y rheilffordd i gyrraedd tref Llanberis, a bellach yr orsaf wreiddiol yng Ngilfach Ddu yw lleoliad Amgueddfa Lechi Cymru.
Ceir tair locomotif ar y llinell: Elidir, Dolbadarn a Thomas Bach, a enwyd ar ôl ei yrrwr gwreiddiol. Ar ddiwedd y daith ar yr ochr orllewinol ceir gorsaf Pen Llyn, ac mae’r daith ddwyffordd yn cymryd oddeutu 45 munud yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, mae llawer o deithwyr yn stopio yng ngorsaf Cei Llydan i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd mynyddig anhygoel uwchlaw Bwlch Llanberis.
Mae’r rheilffordd yn atyniad delfrydol i bawb o bob oed sy’n hoff o’r cyfnod trenau stêm. Ffaith ddiddorol...oeddech chi’n gwybod mai ystyr ‘injan danc’ yw un sy’n cario’i gyflenwad dŵr ei hyn mewn tanc, yn hytrach na bod angen wagen ddŵr ar wahân?