Y dynion a symudodd fynyddoedd
Roedd Dinorwig yn un o chwareli llechi mwyaf y byd yn ymestyn i dros 700 acer, yn ail o ran maint i’w chymydog, sef chwarel y Penrhyn. Ar ei hanterth tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn cyflogi 3000 o ddynion a gynhyrchai 100,000 tunnell o lechi bob blwyddyn. Roedd y chwarel yn cynnwys dwy ran gyda 20 galeri, neu lefelau, ym mhob rhan a nifer o weithfeydd eilaidd. Roeddynt wedi’u cysylltu â thramffordd fewnol a ddefnyddiai incleins (rheilffyrdd serth a ddefnyddiai geblau a rhaffau i dynnu wagenni) er mwyn cludo’r llechi rhwng y galerïau. Adferwyd un o’r incleins hynny erbyn hyn fel ei fod yn gweithio fel fyddai cynt. Ers 1972 bu Dinorwig yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Caewyd Chwarel Lechi’r Vivian, a oedd yn wreiddiol yn rhan o chwarel Dinorwig, yn 1958 a buan iawn yr aeth dan ddŵr. Erbyn hyn, mae yn ganolfan ddringo a phlymio ond gall ymwelwyr heddiw weld y cytiau neu’r gwaliau ble byddai’r blociau llechi’n cael eu hollti a’u trin.
Safle arall o ddiddordeb yw Ysbyty’r Hen Chwarel a adeiladwyd yn 1860 i roi gofal meddygol i’r chwarelwyr. Erbyn hyn, mae ar agor i’r cyhoedd a gwelir yno arddangosfa o offer arloesol a ddefnyddid yno, gan gynnwys teclynnau i dorri aelod o’r corff i ffwrdd a pheiriant pelydr-x.
Yn 2011, cynhwyswyd Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn llwyddiannus yn Rhestr Fer y DU o 11 safle posib ar gyfer Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - yr unig safle yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’r enwebiad yn y broses o gael ei ddatblygu ac mae hyn yn debygol o gymryd rhwng 4 a 10 mlynedd i’w gwblhau.
Mynediad am Ddim
Troi oddi ar yr A4086 yn Llanberis i mewn i Barc Gwledig Padarn ar gyfer Ysbyty'r Chwarel a Chwarel Vivian
Bangor - 8 milltir
Gorsaf bws agosaf rhwng y Mynydd Gwefru a Rheillfordd yr Wyddfa
Mae llwybr beicio ar hyd yr hen rheilffordd i dde orllewin Llyn Padarn
Llwbyr trwy Chwarel Dinorwig oddi ar yr A4086 i ddwyrain Llanberis ym mhen Llyn Peris a chyn Nant Peris
Mae nifer o risiau i gyrraedd Ysbyty'r Chwarel, fodd bynnag mae modd trefnu o flaen llaw i gael mynediad gyda char
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Vivian Quarry SH 586604, Quarry Hospital SH 583606 , Dinorwic Quarry SH 595603 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115