Cymrwch gip olwg tu mewn i’r capel bychan un-llawr hwn ger y môr.
Ai hwn yw’r capel lleiaf ym Mhrydain? Gyda seddi ar gyfer chwech o bobl yn unig fe all gystadlu am y teitl. Mae’r capel yn dyddio’n ôl i ddechrau’r unfed ganrif a’r bymtheg ac efallai y cafodd ei adeiladu ar safle capel hynach ar orchymyn mynachod Sistersaidd Abaty Aberconwy. Cafodd y capel ei adnewyddu’n ofalus a’i ailgysegru yn 1935 gan William Thomas Havard, Esgob Llanelwy.
Mae’r capel wedi’i gyflwyno i Sant Tysilio, hen sant o’r chweched ganrif oedd â chysylltiadau â’r ardal. Mae’r allor yn sefyll dros darddell naturiol a chredir mai ffynnon sanctaidd oedd hon, a defnyddiwyd dŵr o’r ffynnon hon mewn seremonïau bedyddio yn y plwyf.