Yr eglwys leiaf yn Eryri, mewn lleoliad hardd
Mae’r eglwys fach hon wedi ei lleoli yn un o’r lleoliadau mwyaf dramatig yn Eryri, ger yr olygfa glasurol tuag at bedol yr Wyddfa i’r gorllewin. Mae’n enghraifft berffaith o dangnefedd a thawelwch.
Yn sefyll ger cymer Afon Llugwy a Nant y Gwryd, mae Eglwys y Santes Julitta yn hynod am mai hon yw’r eglwys lleiaf yn Eryri. Mae cynllun yr eglwys wreiddiol yn nodweddiadol o hen eglwysi yn Eryri, ac mae nawr yn unigryw yn yr ardal -dyma’r unig enghraifft lle na’d yw’r sgwâr dwbl (lle mae’r hyd yn ddwywaith y lled) wedi ei newid ers i’r eglwys gael ei hadeiladu yn y 13-14 ganrif ar ddeg.
Roedd yn cael ei hadnabod yn wreiddiol fel Capel Curig, a roes ei enw i’r pentref cyfagos. Roedd Curig yn sant Cymreig o’r 6ed ganrif, ond yn ystod oes y Normaniaid, ailgysegrwyd yr eglwys i’r Santes Julitta, pendefiges Gristnogol o’r 4edd ganrif OC. Yn ôl traddodiad, wnaeth ddianc rhag erledigaeth o’i chartref yng Nghanol Twrci gyda’i mab bach 3 blwydd oed.
Ym mynwent Eglwys y Santes Julitta mae cerrig beddau nifer o ddringwyr a laddwyd mewn damweiniau ar y mynydd, ac mae’n destament i bwysigrwydd y mynyddoedd a dringo yn yr ardal hon.
Gyda nifer yr ymwelwyr â Chapel Curig yn tyfu yn ystod y 19eg ganrif, roedd yr hen eglwys yn rhy fach ar gyfer cynulleidfa oedd yn tyfu. Agorwyd eglwys newydd yn nes at y pentref yn 1883. Mae’r eglwys nawr yn cael ei chynnal a’i chadw gan Gyfeillion y Santes Julitta.
Mae Betws y Coed gerllaw yn ganolbwynt ar gyfer amwynderau ac yn lleoliad da ar gyfer teithiau cerdded yn yr ardal.
Ar agor trwy'r flwyddyn
Oddi ar yr A5 ar yr A4086
Bangor - 16 milltir
Gorsaf bws Plas y Brenin neu Llugwy Terrace, Capel Curig
Beicio ar y lôn
O Capel Curig cerddwch ar hyd yr A4086 tuag at Afon Llugwy. Croeswch y bont, mae'r eglwys ar eich chwith cyn Plas y Brenin.
Ychydig o lefydd parcio nesaf i'r eglwys. Mynediad i gadair olwyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 718579 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115