Capel teuluol a adeiladwyd ar graig sydd â thu mewn lliwgar
Penderfynodd Sir Richard Wynn y dylai ei deulu gael eu capel eu hunain i addoli ynddo, fel oedd yn gyffredin ymhlith teuluoedd bonedd cyfoethog. Gan mai ef oedd pedwerydd Barwnig Gwydir roedd ganddo’r arian i roi ei gynllun ar waith, a chychwynnodd y prosiect adeiladu yn 1673.
Mae wyneb allanol plaen y capel yn debyg i steil Gothig. Fodd bynnag, ewch i mewn a chewch weld addurn llawer mwy coeth. Ar y to pren cromennog sydd wedi’i baentio’n hyfryd mae yna lun o’r haul, y lleuad a’r sêr ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi goroesi o’r ail ganrif a’r bymtheg. Mae ffigwr o Dduw ac angylion yn ymddangos o’r cymylau yn dal arysgrifau, ceriwbiaid a cholomennod i’w gweld hefyd. Mae trawst sydd wedi’i baentio a’i gerfio yn cynnal y galeri.
Roedd y teulu Wynn, fel llawer o foneddigion eraill yn yr ail ganrif ar bymtheg yng Nghymru yn bwerus iawn yn eu cymdogaethau, ac roeddynt yn gallu addoli mewn modd oedd yn eu gweddu hwy. Roedd y teulu yn cyflogi eu caplan eu hunain i arwain gwasanaethau yn y capel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweld y panel sydd wedi’i fframio sy’n dangos arfbais Siarl ll ar y wal ddeheuol.