Gwaith copr Fictoraidd anghysbell a phrydferth
Petaech yn cerdded i ben Gwm Pennant, cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a chyfle i archwilio'r gwaith copr sydd wedi goroesi orau, o bosib, yn yr ardal. Oherwydd ei fod mewn lle mor anghysbell, ni chafodd y safle erioed ei ysbeilio am sgrap, ac mae nifer fawr o’r olion gwaith metel gwreiddiol yn dal i fodoli. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd ei adnewyddu'n helaeth gan Awdurdod Datblygu Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Un o’r nodweddion mwyaf nodedig i oroesi yw’r olwyn ddŵr, a adeiladwyd gan Dingey a’i Fab o Truro yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda diamedr nodedig o 25 troedfedd (7.5 metr), cafodd yr olwyn ei chludo i'r lleoliad anghysbell hwn mewn darnau gan bynfarch.
Ni fu Cwm Ciprwth – sydd ag enw sy’n awgrymu cysylltiad hynafol ag echdynnu copr – erioed yn broffidiol iawn. Pan ddarganfuwyd ffynonellau haws i’w hechdynnu dramor ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorfodwyd y mwynglawdd i gau. Er na wnaethpwyd ffortiynau mawr yma, mae’n esiampl diguro o geinder diwydiannol anghysbell.
Oddi ar ffordd fechan i Cwm Pennant o'r A487 yn Dolbenmaen
Gorsaf Porthmadog - 4 milltir
Gorsaf bws agosaf yn Dolbenmaen - 3 milltir i ffwrdd
Llwybr beic NCN 8 yn ymyl
Map Arolwg Ordnans yn angenrheidiol
Mae hwn yn daith gerdded anodd dros dir gwlyb. Map ac eisgidiau cerdded yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar denyn. Parcio yn ymyl pwll cyn y giat ar y ffordd fechan i fyny i Cwm Pennant.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH526478 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115