Dyffryn chwareli llechi, heb newid dim
Mae dyffryn Cwmystradllyn yn lleoliad tawel i gerddwyr tan gysgod mynyddoedd Moel Hebog a Moel-Ddu. Ni fyddai neb wedi medru myfyrio’n dawel fel hyn yn ystod pumdegau a chwedegau’r ddeunawfed ganrif, pan ddaeth cyffro gweithgarwch chwarela llechi â diwydiant trwm i’r ardal.
Nid oedd Chwarel Lechi Gorsedda ond yn weithredol am ddau ddegawd, gan y gwelwyd nad oedd diben gweithio’r llechen a oedd i’w chael yma. Fodd bynnag, mae hyn wedi gadael olion gwych i ni o’r bywyd chwarelyddol yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Gorsedda yn enghraifft glasurol o chwarel ble y gweithiwyd ar y graig ar ffurf grisiau a elwid yn ‘orielau’.
Sefydlwyd cysylltiad rheilffordd i’r chwarel yn 1856, gan ddefnyddio system a oedd yn gweithredu ar geffylau a disgyrchiant – gwaith peiriannydd o’r Alban, James Brunlees. Roedd hon yn cludo llechi gyda cheffylau i felin Ynyspandy ac ymlaen i’r harbwr ym Mhorthmadog. Mae’n werth mynd am dro i weld y felin hon sydd wedi’i chadw mewn cyflwr da – arferai’r adeilad aml lawr droi’r llechi newydd yn slabiau nadd, i’w defnyddio fel cerrig beddi er enghraifft. Fe sylwch hefyd ar y wal trosgrog yn y chwarel, fe adeiladwyd hon i atal gwastraff llechi rhag llithro ar y ffordd dramiau.
Mae pentref diffaith Treforys yn edrych i lawr dros lyn ac fe’i adeiladwyd i’r chwarelwyr yn 1856. Bydd modd i chi weld olion y 36 bwthyn, a dim ond hyn sydd ar ôl i ddangos fod anheddiad wedi bod ar y llechwedd.
Isffyrdd oddi ar yr A487 wedi ei arwyddo fel Golan / Cwm Ystradllyn a Cwm Pennant
Porthmadog - 6 milltir
Safle bws yn ymyl Felin Wlân Bryncir
Maes parcio bach yn SH 556441. Rhywfaint o lefydd parcio yn ymyl y ffordd ar gyfer melin lechi Ynys y Pandy. Ychydig iawn o lefydd parcio yn ymyl y ffordd wrth Llyn Cwmystradllyn. Maes parcio SH 541491 i Cwm Pennant (Prince of Wales). Llwybrau troed. Argymhellir esgidiau cerdded. Mapiau yn angenrheidiol. Rhaid cadw cwn ar dennyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Cwmystradllyn slate mill: SH 550433, Gorseddau Quary SH573453, Treforys village 559452 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115,124