Gorsaf bŵer chwyldroadol ar ffurf capel
Adwaenir yr orsaf bŵer arloesol hon fel ‘y capel yn y dyffryn’ oherwydd ei phensaernïaeth osgeiddig yn y dull celf a chrefft. Yn ymdoddi’n berffaith i’w hamgylchedd, lleolir gorsaf bŵer trydan dŵr Cwm Dyli ar lechwedd deheuol odidog yr Wyddfa. Fe’i hagorwyd gyntaf yn 1906 ac ar y pryd roedd yn chwyldroadol gan mai hon oedd yr orsaf bŵer gyntaf yn y DU i gynhyrchu trydan cerrynt tonnog.
Daw’r dŵr sydd angen i yrru’r tyrbinau sy’n cynhyrchu’r cerrynt tonnog o biblinell 1 filltir o hyd o Lyn Llydaw. Mae’r llyn hwn y mwyaf o dri llyn ar lethrau dwyreiniol yr Wyddfa, rhyw 300 metr uwchlaw Cwm Dyli. Yn gorwedd gerllaw llwybr enwog y Mwynwyr i ben y mynydd, dywedir mai Llyn Llydaw yw un o’r llynnoedd yr ymwelir ag o amlaf ym Mhrydain; yn ogystal, mae’n enwog am ei fod y llyn oeraf!
Yn wreiddiol roedd y safle’n cael ei redeg gan y North Wales Power and Traction Company i gyflenwi ynni i’r chwareli lleol. Yn ogystal roedd rheilffordd drydan wedi’i chynllunio ond fe ddilëwyd y cynllun pan aeth yr arian yn brin. Yn ogystal, defnyddiwyd trydan a gynhyrchwyd yma i gyflenwi ynni i orsaf drosglwyddo tonfedd hir a adeiladwyd gan Guglielmo Marconi ger Waunfawr yn 1912; arloesedd yr orsaf oedd cyfathrebu diwifr ar draws yr Iwerydd yn y 1920au. Heddiw mae un tyrbin yn cynhyrchu hyd at 9.8 megawat o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol. Mae Cwm Dyli yn parhau i gynhyrchu trydan ac erys yn llwyddiant ym maes peirianneg ac yn ei ddyluniad sympathetig.
Troi oddi ar yr A498 i dde o Westy Pen y Gwryd. Parcio cyfyngedig ger trac i'r Orsaf Bwer. Mae ffordd cul iawn trwy Hafod Rhisgl sy'n mynd a chi yn nes at yr Orsaf Bwer.
Gorsaf Bangor - 19 milltir
Gorsaf bws Pen y Gwryd - 1 milltir
Cerddwch i lawr o Ben y Gwryd ar y trac i Cwm Dyli sydd ochr yn ochr â'r A498.
Dim mynediad i'r orsaf bwer. Mae'r cylchoedd cytiau cyfagos ar dir preifat sydd â mynediad cyhoeddus.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Gorsaf Bwer: SH 653540, Cylchoedd Cytiau: SH 655541 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115