Ewch am dro drwy dirwedd Drws y Coed, ble y cloddwyd am gopr ers miloedd o flynyddoedd
Credir bod pobl yn cloddio am gopr yn y lleoliad hwn yn y cynfyd ac yn ystod oes y Rhufeiniaid am eu bod hwythau’n gweld gwerth nodweddion hardd a defnyddiol y metal fel yr ydym ni heddiw. Gwyddwn yn bendant fod gweithgarwch diwydiannol wedi bod yma o chwedegau’r ddeunawfed ganrif ymlaen.
Wrth i chi gerdded o amgylch y safle, ceisiwch ddod o hyd i olion y llochesi a melinau a yrrwyd gan ddŵr, a’r tŷ cyfrif sydd wedi’i gadw’n rhannol. Mae rhai o dai’r mwyngloddwyr yn adfeilion bellach, ond mae eraill yn cael eu defnyddio o hyd. Mae’n werth chwilio am safle'r capel gwreiddiol a oedd yn gwasanaethu’r teuluoedd mwyngloddio - mae panel yna hefyd sy’n dehongli stori’r graig a chwalodd y capel!
Beth yw hanes y bobl a oedd yn gweithio yn yr ardal hardd hon? Tyfodd y gweithlu yn ystod degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan neidiodd y galw am gopr yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd rhwng Prydain a Ffrainc. Talwyd y dynion yn ôl faint o fwyn a gynhyrchwyd ganddynt, ac roedd y cyflog yn amrywio yn ddibynnol ar faint o fetel a oedd yn y graig. Allforiwyd y mwyn copr o’r porthladd yng Nghaernarfon. Yn gyntaf, roeddynt yn ei gludo yna gyda cheffylau, ar hyd yr hen lôn Rufeinig, ac yn ddiweddarach ar hyd ffordd dramiau Nantlle, a gafodd ei hagor yn 1828.
Wrth i’r galw am gopr edwino, fe edwinodd y nifer o fwyngloddwyr yn Nrws y Coed yn yr un modd. Daeth yr adferiad olaf ar ddiwedd y 19eg ganrif, gan annog mwyngloddwyr i deithio i’r ardal i chwilio am waith. Roedd y rhain yn cynnwys merched, a oedd yn gweithio i falu’r mwyn; galwyd y rhain yn ‘ foneddigesau Copr’.
B4418 Penygroes i Rhyd Ddu
Bangor - 18 milltir
Safle bws agosaf yw Rhyd Ddu - 1½ milltir
Llwybr beics Lôn Eifion (Llwybr 8) yn ymyl.
Ceuffyrdd, tipiau a bythynnod i'w gweld o'r ffordd (B4418) yn ymylTalymignedd a chapel Drws y Coed. Dim mynediad cyhoeddus. Mae cwymp peryglus yn ymyl rhai o'r ceuffyrdd a ni ddylid ceisio cael mynediad atynt.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH545534 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115