Castell Normanaidd – o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Nid yw Castell Penrhyn yn union fel y mae’n ymddangos. Er bod tŷ canoloesol ag amddiffynfeydd yn arfer bod yma (fe’i hadeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Ednyfed Fychan ac fe'i hail amddiffynnwyd yn 1438 gan Ioan ap Gruffudd), nid yw’r castell presennol ond â steil castell Normanaidd. Gwaith y pensaer, Thomas Hopper oedd y castell ac fe’i hadeiladwyd rhwng 1819 a 1835 yn ystod yr adfywiad Normanaidd neu’r adfywiad Romanésg. Cyfarfuwyd â’r costau gan George Hay Dawkins Pennant a ddefnyddiodd arian teuluol a ddaeth yn sgil y planhigfeydd siwgr yn Jamaica a’r chwareli llechi lleol. Erbyn hyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n rhedeg yr eiddo.
Yn 1859, arhosodd y Frenhines Fictoria yng nghastell Penrhyn, mewn gwely wedi’i wneud o lechi yn arbennig ar ei chyfer – mae’n pwyso tunnell!. Yn y tŷ ceir enghreifftiau gwych o ddodrefn ffug Normanaidd, cerfiadau trawiadol a gwaith plaster ynghyd â chasgliad ardderchog o baentiadau. Peidiwch ag anghofio ymweld â’r ceginau sydd wedi’u hadfer er mwyn i chi gael gweld y gwaith mawr a oedd yn gysylltiedig â bwydo aelwyd o uchelwyr yn ystod oes Fictoria.
Cymerwch eich amser i gerdded o gwmpas y 60 acer o erddi. Yma cewch weld casgliad o goed egsotig a gardd furiog o oes Fictoria cyn mynd ymlaen at y stablau i weld nid un ond tair amgueddfa! Bydd selogion treftadaeth y rheilffyrdd yn gweld digon i’w cadw i fynd yn yr Amgueddfa Rheilffordd Diwydiannol. Seren yr atyniad yw locomotif y Fire Queen a adeiladwyd yn 1848 o Reilffordd Chwarel Dinorwig a adeiladwyd gan beirianyddion llongau. Mae amgueddfa rheilffordd model yn parhau’r thema trên ar raddfa lai. Yn ogystal, gallwch ymweld â'r Amgueddfa Ddoliau neu edrych ar un o gasgliadau celf gorau Cymru yn cynnwys arlunwyr mawr fel Rembrant a Canaletto ymysg eraill.
Taith y Lechen
Mae Taith y Llechen ar hyd llwybr Lôn Las Ogwen rhwng Nant Ffrancon a Phorth Penrhyn ym Mangor yn adrodd stori llechi dyffryn Ogwen o Chwarel Penrhyn, datblygiad y rheilffyrdd a’r bobl fu’n rhan o’r diwydiant llechi. Mae paneli dehongli a codau QR wedi eu gosod ar hyd y llwybr, a mae'r wybodaeth defnyddiol i'w gweld isod ar ffurf pdf.
Gweler wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am oriau agor a prisiau diweddaraf
Wedi ei arwyddo o cyffordd 11 yr A55 ac ar yr A5
Gorsaf Bangor - 2 filltir
Gorsaf bws gyferbyn â dreif y castell
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 602719 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115