Fe wnaeth weddnewid stad y Penrhyn drwy ei welliannau amaethyddol a datblygu’r chwareli llechi yn llwyddiannus.
Mae’n ffaith a dderbynnir fod y cyfoeth a etifeddodd Richard Pennant ar farwolaeth ei dad yn 1781 oherwydd y fasnach siwgr yn India’r Gorllewin. Yn ddiweddarach, wedi ei gyfuno â ffortiwn pellach o’r chwareli llechi, cafwyd y disgrifiad ‘Siwgr a Llechi’ (‘Sugar and Slate’) am ffynhonnell cyfoeth y teulu Pennant.
Ffaith nad yw mor wybyddus, fodd bynnag, yw fod Richard Pennant, wedi iddo etifeddu stad y Penrhyn, wedi gwella arferion amaethyddol yn fawr ar beth sydd mewn gwirionedd yn ardal fynyddig.
Y diwydiant llechi wnaeth weddnewid ffortiwn y teulu Pennant unwaith yn rhagor. Cymerodd Richard Pennant afael ar reolaeth y chwarel drwy alw i mewn pob les flaenorol. Cafodd y ffordd o Nant Ffrancon ei gwella a datblygwyd porthladd yn Abercegin er mwyn allforio’r llechi a gloddiwyd yn Chwarel y Penrhyn.
Bu farw Richard Pennant heb blant, ac felly aeth y stad i’w gefnder, George Hay Dawkins wnaeth fabwysiadu’r enw Pennant. George Hay Dawkins-Pennant wnaeth gyflogi Thomas Hopper fel y pensaer wnaeth drawsnewid yr hen neuadd i’r castell neo-Norman a welwn heddiw.
George Sholto Douglas-Pennant oedd yn llywyddu dros y stad a Chwarel y Penrhyn yn ystod y cyfnod Streic Fawr y Penrhyn, 1900-1903. Mae’n cael ei adnabod fel y gwrthdaro diwydiannol hwyaf yn y Deyrnas Unedig, digwyddiad sy’n dal i atseinio yng nghalonnau a meddyliau pobl Bethesda hyd heddiw.