Bryngaer hynafol, dirgel a grymus
Ychydig iawn a wyddys am darddiad Castell Cawr. Saif ar ben Coed y Gopa yn edrych dros dref Abergele. Erbyn heddiw mae’r ardal yn tyfu’n wyllt ond mae nifer o lwybrau o amgylch y bryn yn cael eu cynnal a’u cadw gan Goed Cadw.
Ymddengys bod Castell Cawr yn fryngaer fechan oedd wedi’i hamddiffyn yn dda. Fe’i hadeiladwyd ar frigiad calchfaen â chlogwyni serth i’r gogledd ddwyrain a rhagfuriau pridd sylweddol i’r gorllewin a’r de. Hyd yn oed heddiw, mae rhai o’r rhain hyd at 10 metr (33 troedfedd) o uchder. Byddai rhagfur pren ar ben y clawdd carreg wedi gwneud amddiffynfeydd y fryngaer hon yn arswydus.
Er na fu unrhyw gloddio yma dengys arolwg diweddar gan y Coed Cadw bod nifer o lwyfannau ble y gallai tai crynion fod wedi bodoli. Yn ei ddydd, byddai ei leoliad wedi sicrhau golygfeydd eang dros dir isaf Dyffryn Clwyd.
Dilynwch isffordd i fyny'r allt yng Nghyffordd y B5443 yn mynediado Castell Gwrych. Parcio ar ôl 0.7 milltir.
Abergele - 1 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Elden Drive yn ymyl mynediad Castell Gwrych Castle
Taith gerdded 40 munud
Llwybr troed i'r copa. Cerdded fyny allt cymedrol. Dim arwyddo sy'n ei gwneud hi'n anodd dilyn y llwybr cywir. Argymhellir defnydd o fap.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 935767, Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans:116