Adlais o amddiffynfa leol
Credir fod y fryngaer Oes Haearn ym Mhen Dinas, er iddi gael ei hamddiffyn yn gryf ar dair ochr gan glogwyni serth naturiol a wal enfawr a ffos, yn ddim ond amddiffynfa leol. Nid oedd ganddi'r nodweddion go iawn i wir arglwyddiaethu ar y tirlun oddi amgylch fel prif fryngeiri’r cyfnod. Saif bryngaer Pen y Dinas ar ochr gogleddol dyffryn bychan dwfn afon Egryn a byddai wedi darparu cyflenwad parod o ddŵr. Credir fod y mwyafrif o fryngeiri Brythonig oddeutu'r un dyddiad, sef rhywdro rhwng 1500-1000 CC. Cafodd llawer eu hailadeiladu ac roedd nifer ohonynt yn dal i gael eu defnyddio hyd at y cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid/canoloesoedd cynnar.
Mae Pen y Dinas yn bwysig wrth astudio archaeoleg . Yn 1919, bu O.G.S. Crawford, un o archeolegwyr maes enwocaf yr 20fed ganrif, wrthi’n cynnal ei brosiect archwilio cyntaf yma. Dangosodd y gwaith cloddio fod dau gyfnod o adeiladu i’r amddiffynfeydd, ond nid oedd canfyddiadau y gellid eu dyddio. Roedd y diffyg crochenwaith o gyfnod y Rhufeiniaid yn awgrymu na chafodd y gaer ei defnyddio ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid.
Tu allan i’r gaer mae cloddwaith cymhleth gyda glaswellt yn tyfu drosto sy’n weddillion pentref canoloesol.
Mae’r rhain yn cynnwys llwyfannau tai hirsgwar, cyrtiau, traciau a chaeau sydd hyd yn oed yn dangos tystiolaeth o gael eu trin yn y canoloesoedd. Mae un o’r caeau hyn yn torri ar draws y trac mynediad i’r gaer Oes Haearn sy’n dangos nad oedd Pen y Dinas yn cael ei defnyddio erbyn hynny. Fodd bynnag, efallai fod y fryngaer wedi cadw peth o’i statws fel canolfan diriogaethol hynafol, yn denu anheddiad yno.
Mae'r safle ger Abaty Egryn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) rhwng Tal-y-Bont a Llanaber, ac ar y ffordd A496 Harlech i Abermaw. Parcio ar y ffordd ger Capel Egryn.
Gorsaf agosaf - Harlech 7 1/2 milltir Tal-y-Bont - 1 milltir
Gorsaf bws Tal-y-Bont, Capel Egryn
Llwybr beicio ar y lôn - Llwybr 8 Lôn Las Cymru A496
Dilynwch y trac o Abaty Egryn i fyny'r bryn. Yr un llwbyr ar gyfer Siambr Gladdu Carneddau Hengwm. Mae'r tirwedd yn bennaf ar y chwith hanner ffordd i fyny'r bryn rhwng 120 a 240m uwchben lefel y môr a phob ochr i'r trac wrth i'r llethr lefelu allan.
Taith gerdded dda (oddeutu 45 munud) i fyny'r bryn ar hyd llwybr mynyddog. Argymhellir esgidiau cerdded a dillad addas. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Cludiant cyhoeddus ar gael at gychwyn y daith gerdded i Egryn. Map yn angenrheidiol.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 605204 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124