Crwydrwch mewn ‘ffatri’ bwyelli Neolithig a man claddu o Oes yr Efydd
Roedd crib Mynydd Rhiw ym mhen draw gorllewin Llŷn yn ffynhonnell bwysig o siâl ymdoddedig yn y cyfnod Neolithig. Gellir gweld olion cyfres o byllau chwarel wedi’u llenwi hyd heddiw – dyma weddillion ffos mwyngloddio brig sengl a gredir iddi fesur 90 medr o hyd. Yma, defnyddiwyd carreg wedi’i mwyngloddio i gynhyrchu bwyelli a chaiff y safle ei adnabod fel ‘ffatri’ fwyelli neu ganolfan gynhyrchu Neolithig. Canfuwyd bwyell o’r safle hwn yn ystod gwaith cloddio diweddar yn Llwydiarth Esgob yn Ynys Môn.
Ddau gan medr i’r de o brif safle’r chwarel, ceir pedair carnedd gladdu o Oes yr Efydd sydd wedi’u lleoli ar hyd crib amlwg. Roedd pumed carnedd yn bodoli ar un adeg ar gopa Mynydd Rhiw, ond yn anffodus, nid oes modd ei gweld heddiw. Yn ystod gwaith cloddio yn y 1950au, canfuwyd wrn o Oes yr Efydd a ddefnyddiwyd i ddal llwch yn dilyn amlosgiad ym mhentrefan cyfagos Y Rhiw. Nid yw’r carneddi eu hunain erioed wedi cael eu cloddio.
Mae’r ddau safle wedi’u dynodi yn Henebion Rhestredig.
Dilynwch arwyddion am Rhiw oddi ar yr B4413 i Aberdaron
Pwllheli - oddeutu 13 milltir
Gorsaf bws agosaf yn Croesffordd Rhiw
Llwybrau beic o Sarn Meyllteyrn
Llwybr troed o faes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. ¼ milltir i Ffynhonnell garreg bwyelli Neolithig ar ochr dde Mynydd Rhiw cyn y copa.
Llwybr mynydd cymedrol. Argymhellir esgidiau cerdded.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 234299 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 123