Gwaith celf hynafol o Ben y Gogarth
Yn wreiddiol, chwarelwr copr oedd Thomas Kendrick ond yna fe ddaeth yn lapidari, sef artisan sy’n creu gemwaith addurniadol o fineralau a gemfeini. Wrth ymestyn ei weithdy ym 1879, darganfyddodd Kendrick weddillion dynol ac anifeiliaid mewn ogof ym Mhen y Gogarth. Fel mae’n digwydd, rhain oedd y canfyddiadau archeolegol mwyaf arwyddocaol a ddarganfuwyd yn y wlad hon erioed, ac mae’n cynnwys yr hyn a ystyrir i fod y darn hynaf o gelf a ddarganfuwyd ym Mhrydain erioed – darn o safn ceffyl wedi’i ysgythru sydd wedi’i ddyddio rhwng 10,000 ac 11,000 CC.
Canfuwyd yr arteffact hwn, ynghyd ag esgyrn mochyn daear, arth, mochyn gwyllt, gafr a bison, ger gweddillion pedwar ysgerbwd dynol, ac maent i gyd yn dyddio yn ôl i’r un cyfnod. Yn ogystal, canfuwyd bwyelli carreg a chyllyll wedi’u sgleinio ar y safle; mae llawer ohonynt yn yr Amgueddfa Brydeinig erbyn hyn, ynghyd â’r safn ceffyl wedi’i ysgythru. Gellir gweld y rhan fwyaf o’r canfyddiadau eraill o’r safle yn Amgueddfa Llandudno.
Yn amlwg, roedd yr hyn a ganfuwyd yn ryw fath o offrwm defodol, a chredwyd, yn hytrach na rhywle yr oedd rhywun yn byw, mai gofod cysegredig oedd Ogof Kendrick yn yr oes hynafol. Yn ogystal, credir bod llawer mwy o arteffactau yn yr ogof o hyd sy’n dal heb eu canfod.
Lôn i Ben y Gogarth
Llandudno - 1/2 milltir
Gorsaf bws Heol Gloddaeth
Dim mynediad cyhoeddus ar hyn o bryd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 780828 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115