Safle arbennig o arwyddocâd byd-eang
Mae Pen y Gogarth, Llandudno yn bentir o garreg calch hynafol a oedd yn ffurfio gwely môr trofannol oddeutu 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dyweder bod yr enw Saesneg, ‘Orme’ yn deillio o hen air Norseg am sarff, a chredir fod y pentir yn ymdebygu i greadur o’r fath. Mae’n safle o bwysigrwydd eithriadol, yn ddaearyddol ac yn archeolegol, gyda thystiolaeth fod pobl yn byw yma yn y cyfnod Palaeolothig oddeutu 10,000 CC.
Mae cymaint o safleoedd pwysig yn bodoli ar Ben y Gogarth fel nad oes modd ond rhoi crynodeb bras iawn ohonynt yn fan hyn. Canfuwyd arteffactau o’r cyfnodau Palaeolithig, Mesolithig a Neolithig mewn cyfres o ogofau naturiol, gan gynnwys asgwrn o safn ceffyl wedi’i gerfio a chredir mai hwn yw’r gwaith celf hynaf i gael ei ddarganfod ym Mhrydain. Wrth symud i ddiwedd Oes yr Efydd / dechrau Oes yr Haearn, cawn fryngaer Pen-y-Dinas, gydag olion y muriau cerrig a’r cytiau crwn - cyfanswm o oddeutu 65. Credir ei bod hi’n debygol iawn fod y gaer wedi’i hadeiladu i amddiffyn mwyngloddiau copr Pen y Gogarth, ac ymddengys eu bod wedi bod ar eu mwyaf prysur oddeutu 1500 CC. Mae cromlen borth Llety’r Filiast yn hynach fyth yn ogystal â’r twmpathau a’r carneddi niferus ar y Gogarth sydd heb eu cloddio.
Mae tystiolaeth yn bodoli o ddefnydd amaethyddol o’r safle hwn ers Oes yr Haearn, ond yr olion helaethaf yw’r rhai canoloesol, gyda chyfoeth o systemau gwrym a thir aredig ac olion adeiladau cerrig o dair trefgordd ganoloesol Y Gogarth, Cyngreawdr a’r Wyddfid. Mae’n rhaid ymweld â Phen y Gogarth, y cyfleusterau ar y copa (y caffi, cyfleusterau adloniant, siop anrhegion a gorsaf Cerbydau Cebl Pen y Gogarth) a’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Isod gweler gopiau o'r paneli dehongli newydd ar y Gogarth.
Dilynwch y ffordd i'r gogledd o gopa'r Gogarth tuag at y fynwent
Llandudno - 1 1/2 milltir
Gorsaf bws agosaf ger y Palladium ar Heol Gloddaeth
Dilynwch y ffordd a'r llwybrau troed i fyny at Ben y Gogarth. Taith i fyny allt am oddeutu 20 munud o orsaf y Dramffordd. O'r copa dilynwch y ffordd lawr at y fynwent. Gellir gweld y cytiau hir o dan y caffi.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 767837 / SH 769834 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115