13,000 mlynedd o hanes o dan un to
Sefydlwyd Amgueddfa Llandudno yn 1927 wedi i F.E. Chardon adael ei gasgliad helaeth a gwych o beintiadau a chreiriau o bob cwr o’r byd iddi. Yn ychwanegol i gasgliad Chardon, mae amrywiaeth o ddarganfyddiadau archeolegol yn yr amgueddfa sy’n dangos hanes y dref a’r cyffiniau o ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf hyd yn awr.
Trefnwyd yr amgueddfa yn gyfres o ystafelloedd gyda phob un yn dangos cyfnod penodol yn hanes Llandudno. Mae’r Ystafell Gynhanes yn edrych ar yr helwyr cynnar ddaeth i’r ardal fel y ciliodd yr iâ tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae nifer o ogofâu calchfaen ar y Gogarth wedi darparu creiriau o bwysigrwydd rhyngwladol - yn cynnwys asgwrn gên ceffyl hiciog a gredir i fod yn un o’r enghreifftiau cynharaf o gelf yn y byd. Edrycha’r ffilm fer ‘Ebol’ ar ein perthynas gyda’r ceffyl dros yr oesau a sut mae wedi newid.
Canolbwyntia’r Ystafell Rufeinig ar yr hyn a gloddiwyd yng nghaer Rufeinig gyfagos Canovium (Caerhun) ger Conwy, ble cafwyd myrdd o greiriau Rhufeinig - yn cynnwys teilsen gydag ôl-troed plentyn a gêm fwrdd. Mae’r Ystafell Ganoloesol yn rhoi trosolwg o’r cyfnod wedi i’r Rhufeiniaid adael ac ymddangosiad y tywysogion Cymreig cynnar. Yn Ystafell y Dref Wyliau cawn hanes datblygiad Llandudno yng nghanol y 19eg ganrif ac fel y tyfodd o anheddiad mwyngloddio bychan yn dref wyliau glan y môr Fictorianaidd ffasiynol. Yn olaf, yn yr Ystafell Ryfel ceir arddangosfa sy’n edrych ar effaith y ddau ryfel byd ar y gymuned leol.
Pasg i 31 Hydref
Dydd Mawrth - Sadwrn a Gwyl y Banc
10.30 - 1.00 & 2.00 - 5.00 Sul 2.15 - 5.00
Tachwedd i Pasg
Dydd Mawrth - Sadwrn 1.30 - 4.30
Stryd Gloddaeth oddi ar Stryd Mostyn
Llandudno - 1/2 milltir
Palladium, Heol Gloddaeth
Mae Stryd Gloddaeth Street oddi ar Stryd Mostyn prif stryd siopa yn y pen wrth Pen y Gogarth
Mynediad cadair olwyn i'r llawr gwaelod yn unig
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 779 822 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115