Chwedloniaeth Arthur a buchod yn brefu...
Mae’n debygol bod y siambr gladdu nodedig hon ym Mhen Llŷn yn dyddio o ddiwedd y 4ydd mileniwm i ddechrau’r 3ydd mileniwm CC. Saif ar yr ochr o Fynydd Cefn Amlwch sy’n wynebu’r gogledd-ddwyrain, sydd â golygfeydd syfrdanol tuag at Garn Fadryn. Mae’r bedd yn cynnwys benllech fawr sy’n cael ei chynnal gan dri maen unionsyth sy’n mesur oddeutu 1.5 metr (5 troedfedd) o uchder. Awgryma archwiliadau rhagarweiniol a gynhaliwyd ar y safle bod y siambr wedi’i gorchuddio unwaith â charnedd o gerrig ryw 8.5 metr (28 troedfedd) mewn diamedr, ond nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau eto. Caiff y strwythur ei amgylchynu â ffens i’w amddiffyn rhag gwartheg, ond mae’n hawdd ei weld o lwybr troed wrth ymyl ffordd fechan oddeutu milltir i’r de o Dudweiliog.
Cyfeirir at Mynydd Cefn Amwlch gydag enw arall hefyd, sef Coetan Arthur, neu ‘Arthur’s Quoit’. Yn ôl y sôn, taflodd Arthur y Cawr y benllech fawr o Garn Fadrun, mynydd sydd sawl milltir i ffwrdd. Yna, cariodd ei wraig y tri maen unionsyth yn ei ffedog a gosod y benllech arnynt yn ei lleoliad presennol.
Yn ei llyfr, Gwynedd: A Guide to Ancient and Historic Wales, mae Frances Lynch yn cyfeirio at chwedl ddifyr arall sy’n gysylltiedig â’r safle. Dywedir bod y siambr wedi cael ei dinistrio ar un adeg gan y ffermwr oedd yn berchen ar y tir y gorweddai arno. Ond fe wnaeth y buchod oedd yn pori yn y cae frefu yn ddi-baid hyd nes y cafodd y beddrod ei ailadeiladu oherwydd i’r weithred ddireswm hon o fandaliaeth beri gofid iddynt.
O Tudweiliog cymerwch y B4417 am oddeutu 1 1/2 milltir ac yna troi i'r chwith am Sarn Meyllteyrn. Mae'r heneb mewn cae ar y chwith, oddeutu 1/2 milltir o'r gyffordd
Pwllheli - 12 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Tudweiliog - oddeutu 1 1/2 milltir
Beicio ar y lôn
Llwybr troed cyfochrog i'r caeau. Mae'r caeau ar dir preifat.
Argymhellir esgidiau cerdded
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 229345 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123