Y ‘Goron Ddrain Gymreig’
Fe’i disgrifiwyd gan yr Athro Aubrey Burl fel un o ryfeddodau Cymru cynhanesyddol, a galwyd y cylch carnedd hwn hefyd, yn ddadleuol, fel yr heneb prydferthaf o’r Oes Efydd ym Mhrydain – ac mae rheswm da am hynny. Daw’r rhai sy’n teithio o’r de wyneb yn wyneb â silwét nodedig o bileri llechi tolciog gyda gwythiennau cwarts. Mae rhwng 15 ac 20 ohonynt wedi aros yn eu lleoliadau gwreiddiol, wedi’u trefnu mewn cylch 8.5 metr (28 troedfedd) mewn diamedr. Oherwydd ei hymddangosiad, cyfeiriwyd at yr heneb anarferol a thrawiadol hon fel y ‘Goron Ddrain Gymreig’. Er na wnaethpwyd unrhyw waith cloddio ffurfiol erioed yma, credir bod y garnedd yn dyddio i’r Oes Efydd, oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chredir ei bod wedi cael ei defnyddio fel twmpath claddu.
Credir mai canlyniad gweithgarwch gan chwilwyr trysor o’r 19eg ganrif yw’r twll, sy’n dal yn weladwy yn y domen o gerrig ynghanol y cylch.
Ar un adeg, efallai ei fod wedi cynnwys cist, neu fedd, sef y ‘kistvaen’ y soniodd Edward Llwyd, y naturiaethwr a’r botanegwr, amdano ym 1698. Cafwyd difrod pellach i’r safle pan ddefnyddiwyd y garnedd fel man ymarfer saethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er gwaethaf hyn, mae’r safle wedi’i gadw’n hynod o dda.
Gellir mynd i Fryn Cader Faner drwy lwybr troed ag iddo Hawl Tramwy Cyhoeddus o waelod ffordd fechan uwchben Eisingrug, neu o lwybr troed i fyny’r bryn o’r ffordd fechan rhwng Talsarnau a Llyn Tecwyn. Argymhellir pâr call o esgidiau!
Fordd Talsarnau neu Llandecwyn
Gorsaf Talsarnau neu Llandecwyn
Gorsaf bws Talsarnau neu Llandecwyn
Llwybr rhif 8 Lôn Las Cymru yn ymyl
Amryw o lwybrau troed. Llwybr Ardudwy
Taith gerdded hir ar lwybr am i fyny, gall fod yn wlyb dan draed. Rhaid cael esgidiau a dillad addas. Rhiad cadw cwn ar dennyn. Mapiau yn angenrheidiol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 647354 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124