Tirwedd sanctaidd ein gorffennol paganaidd
Mae’r nifer dirifedi o henebion angladdol a defodol sydd i’w cael ar lwyfandir Gregennan o dan Cadair Idris yn awgrymu fod hon wedi bod yn ganolfan ddefodol bwysig yn oes y cynfyd. Ystyrir bod y rhan fwyaf o’r safleoedd hyn yn perthyn i Oes yr Efydd ac i’r ail fileniwm CC. Maent yn ymddangos fel eu bod yn dilyn hynt prif lwybr hynafol, llwybr sy’n cael ei ddilyn hyd heddiw gan ffordd gefn ac sydd wedi’i farcio â chyfres o feini hirion.
Ni ddaethpwyd erioed o hyd i anheddiad sy’n perthyn i’r un oes yn y fan hon sy’n gwneud i rai ddyfalu fod dibenion y safle yn rhai seremonïol yn unig ac y byddai wedi cael ei ddefnyddio gan bobl o bob rhan o’r ardal leol. Credir bod bwced efydd brin wedi’i mewnforio o ganol Ewrop ac a ganfuwyd ar hap yn Arthog, ger Dolgellau, yn offrwm defodol a’i bod yn perthyn i’r Oes Efydd hwyr.
Mae llwybr cerdded oddeutu 2.5 milltir (4km) sy’n cychwyn ac yn gorffen yn y maes parcio wrth ymyl Llyn Gregennan yn arwain ymwelwyr ar daith i weld yr henebion hyn. Wedi pasio maen hir Carreg y Big a nifer o garneddi angladdol o Oes yr Efydd, arweinia’r llwybr yn y diwedd at gylch meini Arthog. Credir mai adfail o garnedd sydd yma yn hytrach na chylch meini fel y cyfryw, ond mewn gwirionedd mae cyn lleied o’r heneb hon ar ôl ei bod hi’n amhosib pennu beth oedd ei diben gwreiddiol. Er gwaethaf hyn, gyda golygfeydd godidog o Gadair Idris ac aber ysblennydd afon Mawddach, nid yw’n anodd gwerthfawrogi pam fod pobl hynafol yr ardal yn ystyried Gregennan yn safle mor arbennig.
Isffordd o Dolgellau i Arthog wedi ei arwyddo fel Cadair Idris.
Abermaw - 12 milltir
Gorsaf bws Dolgellau
Yn ymyl Llwybr Cenedlaethol 82 Lôn Las Cymru
Dewis o deithiau cerdded
Llwybr cylchol cymedrol oddeutu 2 1/2 milltir o faes parcio Llynnau Cregennan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Esgidiau cerdded eu hangen. Rhaid i gwn fod ar dennyn. Mynediad i gadair olwyn ger y llyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol: SH 657142 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 124