Neuadd ganoloesol wych yng Ngwynedd
Mae’r tŷ hwn ym Mhenarth Fawr, ger Chwilog yn adeilad rhestredig gradd II ac yn Heneb Restredig dan ofal Cadw. Credir mai Hywel ap Madog a’i adeiladodd yn oddeutu pumdegau’r bymthegfed ganrif, a hynny ar ben seiliau strwythur cynharach. Dywed i Hywel ap Madog farw o anafiadau a gafodd ym Mrwydr Mortimer’s Cross yn 1461 yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Mae gwaith atgyweirio helaeth a gwblhawyd yn 1937 wedi sicrhau bod nifer o nodweddion gwreiddiol y tŷ wedi cael eu cadw i’r dyfodol. Yr un mwyaf nodedig o’r rhain yw’r neuadd fawr odidog gyda’i ‘speretruss’, fframwaith bren goeth wedi’i gosod ar byst cerfiedig sy’n cynnal y to. Ychwanegwyd y lle tân trawiadol yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Pan gafodd ei hadeiladu, roedd gan y neuadd fawr dân agored yn ei chanol.
Bob dydd 10.00am - 5.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Mynediad am Ddim
Troi am y gogledd oddi ar yr A497 i orllewin gwersyll gwyliau Hafan y Môr
Penychain - 1 milltir
Bws Pwhelli i Criccieth - gorsaf Penychain
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 426381 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123