‘Nid â’n Angof’
Ffermdy traddodiadol Cymreig rhestredig Gradd II yw’r Ysgwrn ger Trawsfynydd a ddaeth yn enwog yn 1917 fel cartref y bardd Ellis Humphrey Evans. Fe’i hadwaenid yn well gan ei enw barddol Hedd Wyn, enw a ysbrydolwyd gan ddyffrynnoedd niwlog Meirionnydd.
Yn fuan yn 1917, pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, gorfodwyd Hedd Wyn yn erbyn ei ewyllys i ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ysgrifennodd “Tywydd garw, enaid trwm a chalon drom. Dyna yw trindod anghyfforddus.” Fis yn ddiweddarach, gorymdeithiodd y bataliwn tuag at frwydr a adnabyddir fel Brwydr Passchendale a chafodd Hedd Wyn ei ladd yn brwydro ar Gefnen Pilckem.
Yn fuan wedi hynny, enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol, Penbedw. Pan ddatgelwyd i’r gynulleidfa ei fod wedi’i ladd, taenwyd cynfas du dros y gadair. Hyd heddiw, cyfeirir ati fel Eisteddfod y Gadair Ddu.
Yn dilyn addewid a wnaed i fam y bardd i gadw’r drws yn agored’ i ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, diogelwyd Yr Ysgwrn. Erbyn hyn, mae’n gofeb rymus, nid yn unig i Hedd Wyn, ond i genhedlaeth o Gymry ifanc a gollwyd yn lladdfa’r ‘rhyfel i ddiweddu pob rhyfel’
Ar 1 Mawrth, 2012, cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod wedi sicrhau’r Ysgwrn i’r genedl. Bu’n bosib gwneud y pryniant oherwydd cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol. Dros y pedair blynedd nesaf, ar drothwy coffadwriaeth canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, bwriad APCE yw datblygu amgueddfa o bwysigrwydd cenedlaethol yn yr Ysgwrn. Bydd yr amgueddfa hon yn cofnodi a hyrwyddo ymwybyddiaeth o wahanol agweddau treftadaeth Gymreig i gynulleidfaoedd o Gymru a thu hwnt.
Drwy drefniant yn unig - Ffôn: 01766 770 274
Ebost: yrysgwrn@eryri-npa.gov.uk
Isffordd yn rhedeg i'r dwyrain oddi ar yr A470 gerTrawsfynydd ac i dde o'r cyffrodd gyda'r A4212
Blaenau Ffestiniog - 9 milltir
Gorsaf bws agosaf ar y tro i Drawfynydd ar yr A470
Llwybr 8 NCN yn agos
Dim cwn. 2 stepen i mewn i'r ty - mynediad anabl ddim yn rhwydd.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 722346 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124