Mwyn Haearn Cors yn y Rhinogydd
Yn cysgodi o dan fynyddoedd gwyllt a mawreddog y Rhinogydd ceir anheddiad Oes Haearn Crawcwellt a archwiliwyd ac a gloddiwyd yn rhannol rhwng 1986-98 gan dîm oedd a’u canolfan ym Mhlas Tan y Bwlch. Daeth yr archaeolegwyr o hyd i dystiolaeth helaeth oedd yn awgrymu mai prif swyddogaeth yr anheddiad yma oedd toddi a gofannu mwyn haearn cors.
Fel yr awgryma’r enw, mae mwyn haearn cors yn haearn a gynhyrchir o fwynau sydd i’w cael yn gyffredin mewn ardaloedd corslyd. Mae anheddiad Crawcwellt yn cynnwys gweddillion tai crwn, tomenni slag haearn a llociau gyda waliau cerrig sydd dros ardal o tua 200 metr (660 troedfedd) ar draws. Sefydlodd amrywiaeth o ddulliau dyddio i’r safle gael ei defnyddio o tua 300CC tan amser goresgyniad y Rhufeiniaid yng nghanol y ganrif 1af OC, pan roedd haearn rhatach ac o ansawdd gwell ar gael.
Mae dadansoddiad amgylcheddol o’r ardal yn awgrymu fod y coetiroedd oddi amgylch wedi cael eu clirio yn wreiddiol yn yr Oes Efydd, tua 1000 o flynyddoedd cyn y cyfnod pan sefydlwyd yr anheddiad yng Nghrawcwellt. Daethpwyd o hyd i sawl twmpath llosgedig (mannau coginio efallai) a charnedd gladdu. Credir bod gwaith clirio pellach wedi digwydd yn negawd cyntaf OC ac roedd hyn yn golygu cryn dipyn o losgi lleol. Yn ychwanegol i’r gwaith haearn, credir fod sawl gweithgaredd ategol wedi eu hymarfer yma ac yn bennaf amaethu cynnar, yn cynnwys trin cnydau. Mae’r safle wedi ei ail-adeiladu yn rhannol i ymwelwyr.
OTrawsfynydd ewch dilynwch yr A470, a chymryd y tro cyntaf i'r dde ar ôl Bronaber. Croesi Pont y Grible. Tai Crwn oddeutu 2 filltir o'r gyffordd gyda'r priffordd.
Gorsaf agosaf yw Porthmadog -15 milltir
Gorsaf bws agosaf yn Bronaber - 1.5 milltir
Beicio ar y lôn
Mae Crawcwellt Gorllewin a Dwyrain ger isffordd sy'n arwain at Graigddu Isaf.
Mae'r Ty Crwn i'w gweld i'r dde o'r ffordd ger y maes parcio. Mae'r maes parcio 0.4 milltir ar ddiwedd y ffordd. Argymhellir eisgidiau cerdded. Ar gyfer y safleoedd eraill mae'r tir yn wlyb o dan draed. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Map yn angenrheidiol.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: Tai Crwn SH 688303 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124